Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r adeg hon o'r flwyddyn bob amser yn gyfle i feddwl am y rhai a fu'n ymladd mor ddewr mewn brwydrau i amddiffyn ein ffordd o fyw.

Eleni, mae'n gan mlynedd ers Brwydr Passchendaele, un o brif frwydrau'r Rhyfel Byd Cyntaf lle collodd 70,000 o filwyr Prydain eu bywydau. Roedd nifer o'r rheini o Gymru, gan gynnwys y bardd, Hedd Wyn.

Mae hefyd yn ganmlwyddiant Corfflu Cynorthwyol Byddin y Merched; pan ganiatawyd menywod i ymuno â'r Lluoedd Arfog am y tro cyntaf, traddodiad sy'n parhau heddiw.

Ni fydd y rhai a roddodd eu bywydau i amddiffyn ein rhyddid byth yn angof.

Y flwyddyn nesaf, bydd can mlynedd ers sefydlu'r RAF, fel gwasanaeth ynddo'i hun. Gall Cymru ymfalchïo yn rôl allweddol y Prif Weinidog o Gymru, David Lloyd George, yn y gwaith o sefydlu'r RAF. Bydd amrywiol ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws Cymru i nodi'r garreg filltir bwysig hon.

Roedd yn fraint i'r Senedd arddangos y cerflun eiconig o'r pabis yn ddiweddar, sef cerflun Weeping Window. Mae'r Senedd yn ganolbwynt allweddol i ddiwylliant Cymru. Felly, mae'n gwbl briodol ein bod yn nodi aberth cynifer o Gymry yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd rhaglen Llywodraeth Cymru, Cymru'n Cofio, yn parhau i nodi digwyddiadau arwyddocaol y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn falch i gefnogi digwyddiadau Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Mae digwyddiadau fel y rhain yn rhoi'r cyfle i bobl Cymru ddangos eu gwerthfawrogiad a'u diolchgarwch i'r rhai hynny sydd eisoes yn gwasanaethu ac wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Byddwn yn dathlu Degfed Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog y flwyddyn nesaf. A Chonwy yw'r dref sydd wedi'i dewis i gynnal y digwyddiad. Bydd yn gyfle bythgofiadwy i ddathlu ein Lluoedd Arfog.

Drwy ein Rhaglen Lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i ddarparu cymorth a gwasanaethau i gymuned ein Lluoedd Arfog.

Mae agenda'r Lluoedd Arfog wedi gwneud cynnydd da ers y datganiad diwethaf.

Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn mynd o nerth i nerth; atgyfeiriwyd 2900 o gyn-filwyr ers ei sefydlu yn 2010. Bellach, mae'r gwasanaeth yn arwain y ffordd mewn perthynas â recriwtio cyn-filwyr ar gyfer treialon ymchwil sy'n helpu i wella problemau iechyd meddwl. Gan wneud defnydd o'r therapïau siarad a thechnegau rhith-wirionedd, mae'r asesiad yn helpu cyn-filwyr i ymdrin â'r trawma personol a achoswyd yn sgil eu profiad yn y Lluoedd Arfog. Mae'r gwasanaeth hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â'r cynllun Newid Cam, sy'n helpu cyn-filwyr i gael triniaeth a chymorth hanfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu nifer y therapïau seicolegol sy'n cael eu cynnig. Ers 2016, rydym wedi rhoi £3 miliwn tuag at wella'r gwasanaeth iechyd meddwl. Mae hynny'n cynnwys cefnogi cyn-filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Mae'r llwybr carlam ar gyfer gofal eilaidd ac arbenigol yn parhau i ffynnu. Mae'r adborth gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gadarnhaol. Yn 2016-17, gwariodd Comisiwn Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru £71k ar gefnogi'r llwybr carlam hwnnw.

Gall fod yn anodd i rai cyn-filwyr gael gwaith ar ôl symud i fyw fel sifiliaid yn y gymuned. Mae'r cynllun Cydnabod Dysgu Blaenorol yn helpu'r cyn-filwyr hynny sy'n dewis astudio i ennill credydau ym maes Addysg Uwch a fydd yn gwella'u cyfleoedd am swyddi yn y dyfodol. Mae'r cynllun, sy'n fenter ar y cyd rhwng Prifysgol De Cymru,  Brigâd160, a Phanel Cyfamod Cymunedol Cwm Taf, yn cydnabod gwerth yr wybodaeth, y sgiliau a'r profiad a geir yn y lluoedd arfog.

Gan fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gallai fod angen cymorth ychwanegol ar rai cyn-filwyr i gael gwaith, mae'n cydweithio â'i phartneriaid allweddol i ddatblygu Llwybr Cyflogadwyedd. Nod y Llwybr fydd ceisio egluro'r dewisiadau o ran gyrfa a'r cymorth sydd ar gael, a bydd yn cynnig opsiynau ar gyfer y rhai hynny sy'n chwilio am waith.

Bydd rhai cyn-filwyr yn ei chael hi'n anodd i ddod o hyd i lety addas. I ategu'r Llwybr Tai, mae cardiau a thaflenni cyngor i gyn-filwyr sy'n cysgu ar y stryd wedi'u datblygu. Mae cynnwys manylion cyswllt Porth y Cyn-filwyr yn cynnig man pwysig iddynt allu cael hyd i'r ystod eang o wasanaethau sydd ar gael iddynt.

Gwelwyd cynnydd da yn Wrecsam. Mae'r prosiect Hunanadeiladu i gyn-filwyr yn rhoi'r cyfle i gyn-filwyr ennill sgiliau adeiladu gwerthfawr. Maent hefyd yn cael cynnig byw yn un o'r tai y maent wedi'u hadeiladu. Mae'n hanfodol iddynt gael cartref eu hunain er mwyn gallu cael swydd.

Ni ddylai cyn-filwyr yn y system cyfiawnder troseddol gael eu hanwybyddu na'u hatal rhag cael cymorth, oherwydd eu bod wedi mynd ar y llwybr anghywir. Mae prosiect SToMP, sy'n helpu staff milwrol i fyw fel sifiliaid yn y gymuned, yn sicrhau bod y rheini sy'n y ddalfa yn cael cymorth arbenigol yn ystod y ddedfryd ac ar ôl cael eu rhyddhau.

Mae model tebyg o gymorth ar gael yn adain Shaun Stocker yn CEM Berwyn. Drwy'r dull adsefydlu hwn, anogir y cyn-filwyr i wella eu haddysg a meithrin sgiliau bywyd gwerthfawr i'w helpu i addasu i fywyd fel sifiliaid.

Mae nifer o'r lluoedd arfog yn gadael y gwasanaeth yn gynnar, ond nid yw'n glir beth yw'r rhesymau dros hyn. Mae Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog yn edrych yn fanylach ar y cysylltiadau rhwng y rheini sy'n gadael y gwasanaeth yn gynnar a'r rheini sydd wedi cael Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Bydd y cynnydd o ran y gwaith hwn yn cael ei rannu maes o law.

Mae cronfeydd y Cyfamod yn cynnig cyfle i ddatblygu'r gwasanaethau rydym yn eu darparu ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog. Mae Awdurdodau Lleol wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth wneud cynnig am arian y Cyfamod. Drwy benodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog, mae cyfle i Gymru sicrhau bod y Cyfamod yn cael ei ddarparu mewn modd cyson.

Bydd Bwrdd y Cyfamod a Chyn-filwyr, sef un o fyrddau Gweinidogol newydd y DU, yn dylanwadu ar agenda cyflawni'r Cyfamod yng Nghymru yn y dyfodol, ac yn gosod y cyfeiriad ar gyfer gwaith Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog yn y dyfodol.

Mae'n rhaid i ni adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud, gyda'n gilydd. Mae mwy i'w wneud o hyd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i chwarae rhan lawn yn hynny. Mewn cyfnod heriol fel hwn, lle mae pwysau cynyddol ar gyllidebau, mae'n bwysig ein bod yn symud ymlaen gyda'n gilydd i sicrhau newid ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog.