Neidio i'r prif gynnwys

Mark Hooper AS, Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ystadegau dros dro ar wrthdrawiadau ffyrdd ac anafiadau a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru ar gyfer y misoedd Ebrill i Fehefin 2026.

Mae'r ffigyrau'n dangos gostyngiad parhaus yn nifer y gwrthdrawiadau a'r anafiadau ar ein ffyrdd. Rhwng Ebrill a Mehefin 2026, bu 19% yn llai o wrthdrawiadau a 20% yn llai o anafiadau ar bob ffordd yng Nghymru o'i gymharu â'r un chwarter yn 2025.

Mae'r gostyngiadau ar ffyrdd gyda therfynau cyflymder is yn arbennig o galonogol. Ar ffyrdd 20mya a 30mya gyda'i gilydd, roedd gwrthdrawiadau 22% yn is ac anafiadau 20% yn is na'r un cyfnod y llynedd.

Wrth edrych ymhellach yn ôl, i'r chwarter cyfatebol yn 2023 cyn cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya, mae'r ffigurau'n dangos gostyngiad hyd yn oed yn fwy. Roedd gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya gyda'i gilydd 37% yn is, tra bod anafiadau 35% yn is.

Dyma'r ffigurau isaf a gofnodwyd yn y modd hwn ar gyfer y chwarter hwn, ac eithrio'r cyfnod eithriadol yr effeithiwyd arno gan bandemig Covid.

Y tu ôl i bob ystadegyn mae person, teulu a chymuned. Mae llai o wrthdrawiadau ac anafiadau yn golygu bod llai o bobl yn profi'r boen a'r canlyniadau o gael eu hanafu ar ein ffyrdd. Dyna pam mae lleihau perygl ar y ffyrdd yn parhau i fod wrth wraidd ein dull gweithredu o ran trafnidiaeth a diogelwch ar y ffyrdd.

Mae'r canlyniadau hyn yn hynod galonogol ac yn ychwanegu at y dystiolaeth rydyn ni'n ei weld ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya. Mae gwaith monitro cynharach hefyd wedi dangos gostyngiadau mewn cyflymderau cerbydau ar ffyrdd 20mya sy'n cael eu monitro. Fodd bynnag, ystadegau dros dro yw’r rhai diweddaraf hyn. Gall ffigurau chwarterol amrywio, ac mae'n parhau i fod yn bwysig ein bod yn asesu'r dystiolaeth dros gyfnod hwy cyn dod i gasgliadau pendant am dueddiadau hirdymor.

Mae ein dull gweithredu o safbwynt diogelwch ar y ffyrdd yn mynd y tu hwnt i derfynau cyflymder. Mae Cynllun Partneriaeth Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru 2026–2040 yn seiliedig ar y System Ddiogel a Gweledigaeth Sero, gydag uchelgais i leihau marwolaethau ar y ffyrdd 40% erbyn 2040. Mae'n pwysleisio cyfrifoldeb a rennir ar draws ffyrdd mwy diogel, cyflymderau, cerbydau ac ymddygiad defnyddwyr y ffordd, ochr yn ochr ag ymateb effeithiol ar ôl gwrthdrawiad.

Rydym yn datblygu gwaith rheoli cyflymder rhagweithiol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n cyfuno peirianneg, gwaith ymgysylltu, addysg a gorfodi cymesur. Mae'r dull hwn yn ystyried nid yn unig gofnodion gwrthdrawiadau ond hefyd cyflymderau, nodweddion ffyrdd, pobl sy'n cerdded a beicio, a phryderon cymunedol.

Ein nod yw sicrhau'r cyflymder cywir ar y ffordd gywir, gan adlewyrchu tystiolaeth, amgylchiadau lleol a thrafodaethau â'r gymuned, gyda chyflymder is yn arbennig o bwysig pan fo pobl a cherbydau yn cymysgu.

Byddwn yn parhau i werthuso'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya a gweithio gydag awdurdodau priffyrdd, heddluoedd, GanBwyll a phartneriaid eraill i wneud ffyrdd a strydoedd Cymru yn fwy diogel.

Hoffwn ddiolch i'n heddluoedd a'n partneriaid diogelwch ar y ffyrdd am eu gwaith parhaus, gan gynnwys casglu a chofnodi'r data sy'n llywio ein dealltwriaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd.

Ni allwn laesu dwylo. Mae pob marwolaeth ac anaf difrifol ar ein ffyrdd yn un yn ormod. Serch hynny, mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn arwydd i'w groesawu ac yn nodi fod Cymru'n parhau i symud i'r cyfeiriad cywir tuag at ffyrdd a chymunedau mwy diogel.