Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i warchod ein tir comin heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Cyflwynwyd Deddf Tiroedd Comin 2006 i gael gwared ar sawl diffyg mewn deddfwriaeth flaenorol er mwyn gwarchod tir comin rhag cael ei ddatblygu, caniatáu i dir comin gael ei reoli yn fwy cynaliadwy a gwella’r ffordd y caiff tir comin ei warchod rhag cael ei esgeuluso a’i gamddefnyddio.

Mae arwynebedd tir comin Cymru yn rhyw 175,000 o hectarau, neu 8.5% o gyfanswm yr arwynebedd tir. Mae’r tir hwn yn bwysig at ddibenion amaethyddol a chaiff ei ddefnyddio’n bennaf at y dibenion hynny. Ar ben hynny, mae’n cael ei gydnabod am y ffordd y mae’n cyfrannu at dreftadaeth naturiol a chenedlaethol Cymru, yn enwedig o ran cadwraeth natur a chynefinoedd. Mae 40% ohono wedi’i ddynodi yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae 50% ohono yn cael ei ystyried yn rhan o dirwedd warchodedig Cymru.

Wrth wraidd y gwaith parhaus o weithredu Deddf Tiroedd Comin 2006 yng Nghymru y mae’r angen i ddatblygu a chyflwyno cofrestr electronig o Dir Comin ar gyfer Cymru. Mae’r gwaith hwn bellach yn cael ei wneud ac yn mynd rhagddo’n dda. Mae’r prosiect wedi’i rannu yn bedwar cam dros gyfnod o bedair blynedd. Fe’u nodir yn Atodiad Un i’r datganiad hwn.

Drwy ddatblygu a chyflwyno cofrestrau electronig yng Nghymru, cawn gyfle i fod ar flaen y gad ledled y DU yn hynny o beth. Rwy’n awyddus i annog pawb sydd am weld ein tir comin yn cael ei warchod yn y dyfodol i gymryd rhan yn y broses wrth inni ddatblygu’r system newydd ar gyfer Cymru. Mae’r manylion am sut i gofrestru eich diddordeb ac i gymryd rhan i’w gweld yma

http://gov.wales/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/common/commonsact2006/commons-section-25-electronic-registers/?skip=1&lang=cy

Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar hynt y gwaith hwn.

Atodiad Un

Tabl 1: Camau’r Prosiect ac Amcan o’r Amserlen

Cam

Teitl

Crynodeb o’r Prif Elfennau

2017


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


2021

1

Dechrau’r Prosiect

Sefydlu trefniadau llywodraethu, nodi rhanddeiliaid, dadansoddi risgiau a buddion, cynnal trafodaethau cychwynnol ar gaffael a diogelwch.

 

 2

Cynllunio a Chreu’r System

Caffael manyleb i lywio opsiynau ar gyfer sut i greu systemau, cynnal systemau a throsglwyddo data. Creu system.

 

3

Symud data

Gweithredu proses i drosglwyddo pob map a chofrestr papur i’r system electronig ac i sicrhau ansawdd.

 

4

Defnyddio

Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i ddilysu’r gwaith o drosglwyddo cofnodion papur i’r system electronig. Gweithio gydag Awdurdodau Cofrestru Tiroedd Comin i gytuno ar ddulliau gweithredu a hyfforddi. Cytuno ar rolau a chyfrifoldebau (o fewn Llywodraeth Cymru a’r Awdurdodau hynny) i reoli’r system o hyn ymlaen.

 

Busnes fel arfer