Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod dadl y Cynulliad ym mis Ionawr ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Bil Cymru, cyfeiriais aelodau at gwestiynau sylfaenol cyfiawnder a'r awdurdodaeth a oedd heb eu hateb yn y Bil, er gwaethaf cynigion adeiladol Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â nhw. Gwnaethom ddadlau drwy hynt y Bil i gomisiwn ystyried y trefniadau y mae angen eu rhoi ar waith i sicrhau bod gennym system gyfiawnder yng Nghymru sy'n addas at y diben ac yn addas ar gyfer y setliad datganoli newydd. Dywedais y byddwn yn dod yn ôl ato yn y misoedd i ddod.

Cyflwynodd Comisiwn Silk nifer o argymhellion gofalus eu rhesymeg ar sail tystiolaeth ynghylch cyfiawnder, gan gwmpasu cyfiawnder ieuenctid, y llysoedd, y gwasanaeth prawf a charchardai. Mae'r materion hyn heb eu datrys o hyd ac mae, yn ogystal, faterion hanfodol y mae angen mynd i'r afael â nhw ynghylch awdurdodaeth gyfreithiol a'r heriau mawr sy'n wynebu'r sector gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru.

Rwyf wedi penderfynu sefydlu Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd wedi cytuno cadeirio'r Comisiwn pan fydd yn rhoi'r gorau i'w gyfrifoldebau fel Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr ym mis Hydref. Byddaf yn rhoi rhagor o fanylion am aelodaeth y Comisiwn a'i gylch gorchwyl yn hwyrach yn yr hydref.