Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru am gael strategaeth tymor hwy sy’n seiliedig ar wybodaeth ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith, strategaeth a fydd yn ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Rydym am weld trefn ar gyfer datblygu prosiectau penodol yn fwy effeithlon a gwella’n gallu i sicrhau bod buddsoddiadau sector cyhoeddus yn cynnig gwerth am arian.

Dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru i roi cyngor arbenigol ac annibynnol ar ba seilwaith strategol sydd ei angen ac y dylid rhoi blaenoriaeth iddo.

Rwyf heddiw’n lansio ymgynghoriad cyhoeddus sy’n gwahodd rhanddeiliaid i fynegi barn ynghylch sut y dylid sefydlu a rhedeg y comisiwn. Daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar 9 Ionawr 2017.

Mae'r ymgynghoriad ar gael ar y rhyngrwyd yn https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/comisiwn-seilwaith-cenedlaethol-cymru

Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar y Comisiwn yfory.