Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidaieth

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar y 5ed Mehefin 2019, cyhoeddais ddatganiad yn pennu’r camau nesaf, yn dilyn penderfyniad y Prif Weinidog i beidio mynd ymlaen â phrosiect Ffordd Liniaru yr M4.  Amlinellais nifer o fesurau tymor byr fydd fy swyddogion yn eu hystyried a allai gynnig manteision ar unwaith. 

Rwy’n falch â’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma, gyda swyddogion traffig ychwanegol bellach wedi’u sefydlu yn ardal Casnewydd o’r M4; caiff gwybodaeth am amseroedd teithio byw eu harddangos ar arwyddion negeseuon electronig; caiff y newyddion diweddaraf eu rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol drwy @TrafficCymruD i dynnu sylw at broblemau ar y rhwydwaith, ac mae ymgyrchoedd pellach wedi’u targedu yn cael eu cynllunio i fynd i’r afael â materion penodol. 

Mae’r trefniadau presennol dros gyfnod yr haf i roi cymorth i gerbydau yn ddi-dâl bellach yn cael eu datblygu yn gynllun ar gyfer patrolio amlwg o gymorth helaeth ar gyfer digwyddiadau mawr a gwyliau banc. 

Yn ogystal â’r mesurau tymor byr, awgrymais sefydlu Comisiwn annibynnol, o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Burns, ac rwyf yn falch o gyhoeddi bod y broses hon wedi’i chwblhau bellach.

Cafodd saith o Gomisiynwyr eu penodi a bydd y profiad a’r arbenigedd a ddaw yr unigolion hyn i’r Comisiwn yn hynod iawn.

Y Comisiynwyr yw:

Peter Jones

Athro trafnidiaeth a datblygu cynaliadwy yng Ngholeg Prifysgol Llundain.

Lynn Sloman

Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Trafnidiaeth er Bywyd o Safon, ymgynghoriaeth arbenigol ar yr amgylchedd a thrafnidiaeth gynaliadwy.

Stephen Gifford

Economegydd Trafnidiaeth ac aelod o Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Elaine Seagriff

Cynllunydd trafnidiaeth strategol, gyda phrofiad helaeth gyda Transport for London o ddatblygu strategaeth gynaliadwy ac integredig ar gyfer y ddinas. 

James Davies

Gŵr busnes profiadol, Cadeirydd Diwydiant Cymru ac Aelod o Fwrdd Cyngori Gweinidogion ar yr Economi a Thrafnidiaeth.   

Jen Heal

Cynghorydd Dylunio i Gomisiwn Dylunio Cymru a dylunydd trefol profiadol. 

Beverly Owen

Cyfarwyddwr Strategol - Lleoedd, yn cynnwys strategaeth adfywio, yr amgylchedd a thrafnidiaeth - Cyngor Dinas Casnewydd. 

Rwyf wedi ymrwymo o hyd i ddefnyddio dull cynhwysol a chydweithredol o ddod o hyd i atebion arloesol, fforddiadwy a chynaliadwy cyn gynted â phosibl, a bydd y Comisiwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gyflawni’r uchelgais honno. 

Rwy’n edrych ymlaen at dderbyn diweddariad cyntaf y Comisiwn ar ddiwedd y flwyddyn.