Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bob dydd mae’r GIG yn cefnogi pobl Cymru, trwy hybu ffyrdd iach o fyw er mwyn atal afiechyd ac i drin pobl pan fyddant yn sâl. Mae technolegau newydd, poblogaeth sy'n heneiddio a datblygiadau yn y ffordd y gellir rheoli cyflyrau yn effeithiol yn ychwanegu at y cymhlethdod o ofalu am unigolion. Mae cynaliadwyedd y gwasanaethau hyn yn dibynnu ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad y rhai sy'n darparu’r gofal, p’un a ydynt yn darparu gofal uniongyrchol i gleifion neu’n gweithio mewn rolau llai adnabyddus sy'n darparu gwasanaethau cymorth hanfodol megis unigolion sy'n gweithio yn y labordai, sy'n cyflawni amrywiaeth o brofion bob blwyddyn er mwyn hwyluso diagnosis a thriniaeth.

Heddiw rwyf yn cyhoeddi pecyn o £95 miliwn i gefnogi ystod o raglenni addysg a  hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys nyrsys, ffisiotherapyddion, radiograffyddion ac ystod o gyfleoedd hyfforddiant ym maes gwyddoniaeth iechyd. Mae hyn yn gynnydd o £10m i’r pecyn y cytunwyd arno ar gyfer 2016-17 a bydd yn galluogi mwy na 3000 o fyfyrwyr newydd i ymuno â’r rhai sydd eisoes yn astudio rhaglenni addysg gofal iechyd ledled Cymru. Bydd cyfanswm nifer y bobl mewn lleoedd hyfforddiant ar gyfer 2017-18 yn 8,573 o'i gymharu â 7,384 yn 2016-17. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys cynnydd o fwy na o 13% yn nifer y lleoedd hyfforddi nyrsys – 192 yn ychwanegol – a gaiff eu comisiynu yn 2017-18. Mae hyn yn ychwanegol at y cynnydd o 10% yn 2016-17 a’r cynnydd o 22% yn 2015-16 ac yn parhau â’n buddsoddiad mewn addysg i nyrsys. Mae’n cynnwys hefyd gynnydd o fwy na 40% mewn lleoedd hyfforddi ym maes bydwreigiaeth.

Mae llawer o heriau’n wynebu’r NHS, gan gynnwys yr angen i sicrhau y gellir gofalu am gleifion mor agos at eu cartref â phosibl. Mae hyn yn golygu mynd ati i ddarparu mwy o ofal yn y gymuned wrth i glystyrau gofal sylfaenol gydweithio â’r sector ysbytai. Bydd y pecyn cymorth yn darparu £500k yn ychwanegol i fanteisio ar ymarfer uwch a hyfforddiant ac addysg mewn sgiliau estynedig. Mae hefyd yn cynnig cynnydd sylweddol mewn addysg i nyrsys practis a nyrsys ardal. Buddsoddir hefyd mewn lleoedd hyfforddi i ategu'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau awdioleg mewn lleoliadau sylfaenol a chymunedol.

Defnyddir ymagwedd newydd at addysg a hyfforddiant fferyllol, gan adeiladu ar gynllun peilot i ddwyn ynghyd rhaglenni’r ysbyty a'r gymuned yn un rhaglen rhag-gofrestru integredig.

Byddwn yn cynnal lefel y buddsoddiad mewn gweithwyr cymorth gofal iechyd yn £1.5m, gan ddyrannu £250k i gefnogi ymarfer cyffredinol yn y maes hwn.

Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn rhaglenni gwyddoniaeth gofal iechyd, gan gynnwys mewn meysydd allweddol i’w datblygu megis genomeg, gan barhau ar yr un pryd i gefnogi meysydd megis parafeddygaeth wrth iddi ehangu ei rôl mewn cymdeithas ar draws ystod o leoliadau.

Yn ogystal byddwn yn trefnu bod carfan arall o leoedd hyfforddi ar gyfer cymdeithion meddygol ar gael o Fedi 2017 gyda 12 o'r lleoedd hyn ym Mhrifysgol Bangor a 20 ym Mhrifysgol Abertawe.