Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 4 Mawrth 2025, cyhoeddais y byddai Llywodraeth Cymru yn comisiynu ymchwil annibynnol i opsiynau ar gyfer datganoli treth incwm ymhellach yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw fod ymchwilwyr yn Sefydliad Fraser of Allander a Phrifysgol Bangor wedi cael eu comisiynu i ddarparu'r ymchwil hon. Y nod yw y bydd canlyniadau'r ymchwil, gan Dr João Sousa, Dr Edward Thomas Jones, Dr Rhys ap Gwilym a Ciara Crummey, yn cael eu cyhoeddi erbyn canol mis Ionawr.

Mae Sefydliad Fraser of Allander ym Mhrifysgol Strathclyde yn sefydliad ymchwil economaidd annibynnol, blaenllaw, sydd â hanes hirsefydlog o ddarparu dadansoddiad cyllidol gyda ffocws penodol ar economi'r Alban. Mae gan Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor hanes o ddarparu dadansoddiad cyllidol o ansawdd uchel yng nghyd-destun Cymru.

Mae Dr João Sousa yn Uwch Gymrawd Cyfnewid Gwybodaeth a Dirprwy Gyfarwyddwr yn Sefydliad Fraser of Allander ym Mhrifysgol Strathclyde ac mae'n gweithio ar faterion cyllidol yn bennaf. Mae gan João dros 10 mlynedd o brofiad fel economegydd cymhwysol, ar ôl bod yn Uwch Ddadansoddwr Cyllidol yn y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, lle arweiniodd ar ddadansoddi cynaliadwyedd hirdymor cyllid cyhoeddus y DU ac ar effaith datblygiadau economaidd a pholisi cyllidol ar ragolygon tymor canolig y DU. Mae gan João ddoethuriaeth mewn Economeg o Birkbeck, Prifysgol Llundain ac mae'n aelod o Fwrdd Ystadegau Swyddogol yr Alban.

Mae Dr Edward Thomas Jones yn Uwch Ddarlithydd mewn Economeg yn Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor, gyda phrofiad proffesiynol o weithio yn y sector preifat a chyhoeddus ar lefel uwch. Mae ei ymchwil, sydd â ffocws ar bolisi yn bennaf, yn ymwneud gan mwyaf â'r maes economeg ac arloesi mewn cyllid cyhoeddus a phreifat. Ers ymuno â Phrifysgol Bangor, mae Dr Jones wedi cyfrannu at nifer o brosiectau sy'n ymwneud â threthiant datganoledig yng Nghymru, a rhwng 2017 a 2019 arweiniodd y gwaith sicrwydd a chraffu annibynnol ar ragolygon trethi datganoledig ar gyfer Cymru.

Mae Dr Rhys ap Gwilym yn Uwch Ddarlithydd mewn Economeg yn Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor. Mae Rhys wedi gwneud gwaith ymchwil yn flaenorol ar yr Ardoll Ymwelwyr yng Nghymru a'r potensial ar gyfer Treth Gwerth Tir. Drwy arwain ar y prosiectau hyn a lledaenu'r canfyddiadau, mae Rhys wedi datblygu arbenigedd mewn trethiant datganoledig yng Nghymru. Mae diddordeb Rhys mewn trethi Cymru yn cyd-fynd â'i ddiddordebau ymchwil mewn perfformiad economaidd rhanbarthol ac economi Cymru yn arbennig.

Mae Ciara Crummey yn Gydymaith Cyfnewid Gwybodaeth yn Sefydliad Fraser of Allander ym Mhrifysgol Strathclyde. Yn ddiweddar, mae Ciara wedi cwblhau secondiad yng Nghomisiwn Cyllidol yr Alban (SFC), lle roedd hi'n gyfrifol am ragweld amodau macroeconomaidd ac am gyfrannu at ysgrifennu Rhagolygon Economaidd a Chyllidol yr Alban, sef cyhoeddiad blaenllaw yr SFC.

Mae'r cyfoeth o brofiad a gwybodaeth y mae João, Edward, Rhys a Ciara yn eu cyfrannu i'r ymchwil hon yn amlwg ac rwy'n gobeithio y bydd eu hymchwil yn llywio trafodaethau ar ddatganoli treth incwm yng Nghymru yn y dyfodol.