Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymru wedi gwneud ymrwymiad unigryw i lesiant cenedlaethau’r dyfodol. Ledled Cymru, mae sefydliadau, pobl a chymunedau yn gweithio tuag at ein saith nod llesiant cenedlaethol sy’n darparu gweledigaeth gyffredin ar gyfer Cymru gynaliadwy yr ydym ni am ei gweld nawr ac yn y dyfodol.

Mae ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn darparu glasbrint i weithredu hyn. Er mwyn cynorthwyo, cefnogi ac ysbrydoli’r trawsnewid hwn, mae Comisiynydd annibynnol Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a’i swyddfa yn arwain ac yn siapio sut yr ydym ar y cyd yn hyrwyddo datblygu cynaliadwy gan dynnu ar ei rôl graidd fel eiriolwr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Penodir y Comisiynydd am gyfnod o saith mlynedd, gyda thymor y Comisiynydd presennol, Sophie Howe, yn dod i ben ddechrau 2023.

Dechreuodd y broses recriwtio ar gyfer y Comisiynydd nesaf ym mis Gorffennaf 2022 a gwahoddwyd ceisiadau gan ymgeiswyr a allai ddangos eu gallu i chwarae rôl flaenllaw wrth wneud Cymru’n genedl fwy cynaliadwy a chyfrifol yn fyd-eang drwy ysbrydoli, cefnogi, ac ymgynnull pobl a sefydliadau i gyflawni ein nodau llesiant cenedlaethol.

Yn dilyn ymarfer recriwtio trylwyr rwy’n falch o gyhoeddi fy mod wedi penodi Derek Walker yn Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol nesaf Cymru.

Cafwyd cyfanswm o 55 cais, gyda llawer yn dangos y rhinweddau arweinyddiaeth a’r ymrwymiad i ddatblygu agenda llesiant cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru. Cafodd fy mhenderfyniad ei lywio gan farn y Panel Cynghori ar Asesu trawsbleidiol a sesiwn rhanddeiliaid gyda rhwydwaith alumni Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol. Rwy’n ddiolchgar am yr amser a roddodd rhwydwaith alumni yr Academi i ymgysylltu ag ymgeiswyr ar y rhestr fer ac yr amser a roddodd Aelodau’r Senedd yn y broses hon.

Hoffwn dalu teyrnged i Sophie Howe am ei holl waith yn ystod ei chyfnod fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Mae Sophie wedi gwneud y rôl yn un ei hun, gan ysbrydoli ein cenhedlaeth iau a’n cymdeithas yn gyffredinol, i feddwl yn ofalus am yr holl benderfyniadau yr ydym yn eu gwneud, a sut y byddant yn effeithio ar y rhai sy’n ein holynu fel arweinwyr yfory.

Mae Sophie wedi gwneud cyfraniad trawiadol a hirhoedlog i drafodaeth gyhoeddus a pholisi yng Nghymru, ac rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar iddi am siapio rôl gyntaf Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Yn awr, yn fwy nag erioed, mae rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn hollbwysig. Bydd y Comisiynydd yn helpu i lywio dyfodol tecach, mwy cyfartal, yr ydym i gyd am ei weld. Mae angen unigolyn cryf, annibynnol, ac uchel ei barch ar Gymru i ymgymryd â rôl y Comisiynydd, gan ein helpu i gyd i adael etifeddiaeth well ar gyfer pobl a’r blaned.

Mae gan Derek gyfoeth o wybodaeth a phrofiad, ac rwy’n gwybod y bydd yn meithrin y cysylltiadau ledled Cymru i barhau â’r mudiad dros newid a ddechreuwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a gwaith Sophie Howe.