Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein bod wedi cytuno ar Goncordat rhwng Llywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder,  yn nodi'r trefniadau gweithio rhwng y ddau sefydliad.

Yn bwysig iawn, ond heb fod yn gyfyngedig i’r isod, mae'r Concordat yn ceisio sicrhau bod:

  • Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ystyried buddiannau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru wrth gynllunio a gweithredu polisi Cyfiawnder y DU a gweithgareddau sy'n debygol o gael effaith yng Nghymru
  • Llywodraeth Cymru yn ystyried buddiannau a chyfrifoldebau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wrth arfer swyddogaethau datganoledig, ac
  • Eglurder ac atebolrwydd, sy'n galluogi cysylltiadau gwaith cynhyrchiol a gwell canlyniadau ar gyfer cyfiawnder yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r Concordat yn gam pwysig ymlaen ar gyfer gwell arferion gweithio, cysylltiadau rhynglywodraethol, a chanlyniadau cyfiawnder i’r ddwy weinyddiaeth.

Rhaid nodi ei bod yn hanfodol bod y ddwy lywodraeth yn parchu ysbryd a sylwedd y Concordat, yn enwedig mewn perthynas ag ymgynghori yn amserol ar faterion sy'n effeithio ar y naill weinyddiaeth a’r llall.

https://gov.wales/about/organisationexplained/intergovernmental/concordindex/ministry-of-justice/?skip=1&lang=cy