Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Defnyddiwyd planciau Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) gan y diwydiant adeiladu yn y DU rhwng y 1960au a’r 1980au yn gyffredinol. Fe’u defnyddiwyd i greu cynnyrch fel planciau llawr, planciau to a phaneli wal. Ym mis Mai 2019, tynnodd rhybudd gan y corff annibynnol yn y DU, y Pwyllgor Sefydlog ar Ddiogelwch Strwythurol, sylw at y pryderon sylweddol ynghylch diogelwch strwythurol eiddo a oedd yn cynnwys y cydrannau hyn.     

Ers i’r rhybudd hwnnw gael ei gyhoeddi yn 2019, mae fy swyddogion a'm cynghorwyr ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – sy’n gyfrifol am ddefnyddio adnoddau yn y ffordd orau posibl drwy gomisiynu a chaffael gwaith ar gyfer y GIG ar sail ‘unwaith i Gymru’ – wedi bod mewn cysylltiad â GIG Cymru ynghylch rheoli RAAC a'r peryglon cysylltiedig.

Rhwng mis Tachwedd 2019 a mis Ionawr 2022, cyhoeddwyd nifer o Hysbysiadau Gwasanaethau Ystadau Arbenigol fel rhan o'r gwaith hwn. Yn unol â’r hysbysiadau hynny, rhoddwyd y dasg i sefydliadau'r GIG o gynnal ymchwiliadau i bresenoldeb (neu ddiffyg) RAAC. Roedd y gwaith hwn yn berthnasol i holl fangreoedd trwyddedig y GIG.

Yn 2022, penododd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru beiriannydd strwythurol arbenigol ar ran Llywodraeth Cymru i adolygu'r adroddiadau a dderbyniwyd gan sefydliadau a'r lleoliadau hynny lle’r oedd RAAC wedi’i ganfod. Cafodd yr adolygiadau arbenigol eu cwblhau ym mis Tachwedd 2022, a rhannwyd â'r sefydliadau perthnasol yr adroddiadau ar yr holl arolygon safle a luniwyd fel rhan o'r comisiwn hwn.

Ym mis Chwefror 2023, gofynnwyd i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG gynnal ymchwiliadau pellach i ystyried canfyddiadau adroddiadau’r peiriannydd arbenigol. Mae’r adroddiadau sicrwydd uwch hyn yn cael eu llunio ar hyn o bryd. Mae’r rhai sydd wedi’u cwblhau yn cael eu casglu a’u hadolygu.

Ar sail y canfyddiadau hyd yma, nodwyd bod RAAC yn bresennol mewn dau safle ysbyty acíwt yng Nghymru – Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd ac Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni.

Mae’r ddau fwrdd iechyd lle mae RAAC wedi’i ganfod wrthi’n ymchwilio ymhellach ac yn cymryd camau lliniaru angenrheidiol i ddiogelu cleifion, staff ac ymwelwyr.

Yn Ysbyty Llwynhelyg, lle mae chwe ardal ward ynghau ar hyn o bryd oherwydd gwaith lliniaru, mae 32 o gleifion wedi’u symud i welyau a gomisiynwyd yn Ysbyty De Sir Benfro. Nid yw’r rhain yn welyau gofal acíwt ac nid oes angen gofal iechyd acíwt ar y cleifion hyn mwyach.

O ran y wardiau yn Ysbyty Llwynhelyg y mae gwaith yn cael ei wneud ynddynt, bwriedir eu hailgomisiynu’n raddol, gan anelu at gwblhau’r gwaith erbyn diwedd mis Mawrth 2024.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £12.8 miliwn i gefnogi’r gwaith cyweirio yn Ysbyty Llwynhelyg.

Yn Ysbyty Nevill Hall, does dim cleifion wedi’u heffeithio gan y nifer fach o ardaloedd anghlinigol sydd wedi’u cau ar y safle. 

Mae ardaloedd llai o RAAC hefyd wedi’u canfod mewn ystafell beiriannau yn ysbyty Bronglais, yn Aberystwyth, sy’n cael ei defnyddio gan staff hyfforddedig yn unig ac nad yw ar agor i’r cyhoedd, a ffreutur yn ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan, a gafodd ei ddatgomisiynu ym mis Ionawr 2022.

Bydd canlyniadau’r gwaith arolygu manylach ar gael yn nes ymlaen yn nhymor yr hydref, a bydd hyn yn hysbysu’r camau nesaf sydd i’w cymryd o ran unrhyw waith cyweirio pellach a gwaith rheoli safleoedd. Nid wyf yn rhagweld y bydd unrhyw newid i’r gwaith arolygu a wnaed hyd yma, cyn belled ag y bod canllawiau Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol yn aros yr un fath.

Rwyf wedi gofyn i’m Swyddogion gomisynu’r GIG i ganfod presenoldeb RAAC ar draws Portffolio Ystadau’r GIG, sy’n cynnwys unrhyw adeilad lle bydd gofal y GIG yn cael ei ddarparu.