Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth yn fath o goncrit ysgafn a ddefnyddiwyd wrth adeiladu llawer o adeiladau rhwng y 1950au a'r 1990au. Mae RAAC yn awyredig iawn, ac mae iddo wahanol briodweddau o ran deunydd o'i gymharu â choncrit confensiynol. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill ers 2018 i ystyried y goblygiadau posibl o ran rheoli adeiladau sy'n cynnwys RAAC. Yn haf 2023, dywedodd Adran Addysg y DU fod digwyddiadau wedi dod i'r amlwg dros gyfnod yr haf a arweiniodd at bryder ynghylch risg diogelwch uwch posibl.

Ar 8 Medi 2023, nododd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg y camau sy'n cael eu cymryd i asesu'r ystâd gyhoeddus ehangach, gan gynnwys cartrefi cymdeithasol, am bresenoldeb RAAC.

Fel rhan o'r ymateb Cymreig i'r risgiau cynyddol a amlygwyd gan Adran Addysg y DU, gofynnwyd i bob landlord cymdeithasol asesu eu stoc tai cymdeithasol ar gyfer presenoldeb RAAC. Bydd yr wybodaeth hon yn cynnwys sefydlu pryd y cynhaliwyd arolygon neu arolygiadau RAAC ddiwethaf; canlyniadau'r arolygon a'r wybodaeth am hyd a lled a math yr eiddo lle gallai RAAC fod neu y canfuwyd ei fod yn bresennol. Lle nad oedd yr wybodaeth bresennol yn rhoi digon o sicrwydd, mae arolygon manwl o eiddo a adeiladwyd o fewn yr amserlen RAAC berthnasol wedi'u comisiynu. 

Mae'r corff helaeth hwn o waith yn mynd rhagddo'n dda ac mae wedi arwain at nodi nifer fechan o eiddo sy'n cael eu rhedeg gan Trivallis yn ardal Hirwaun lle mae RAAC yn bresennol. Mae arolygon arbenigol o ddau o'r eiddo hyn wedi nodi bod angen cymryd camau adfer o fewn chwe mis a'r potensial y bydd angen gwaith o'r fath mewn 38 eiddo arall gyda'r un dyluniad. Mae 20 o gartrefi ymhellach sy’n eiddio i Trivallis a 17 o gartrefi eraill sy'n eiddo i berchen-feddianwyr hefyd wedi cael eu nodi fel rhai a RAAC, pedwar o'r un dyluniad a dull adeiladu.

Mae Trivallis, landlord cymdeithasol cofrestredig, wedi ymateb yn gyflym i rybuddio trigolion am y sefyllfa a chynnig cefnogaeth a llety amgen i'w denantiaid. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â Trivallis.

Rwyf yn cydymdeimlo a phob aelwyd yn Hirwaun, sydd wedi eu heffeithio gan RAAC. Hoffwn ddiolch i landlordiaid cymdeithasol am eu gwaith parhaus i nodi eiddo a adeiladwyd gan ddefnyddio RAAC.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.