Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi gosod y rheoliadau ar gyfer y trefniadau contract gwasanaethau deintyddol cyffredinol newydd (dolen allanol), a fydd yn golygu mynediad tecach i bobl at ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru.

Bydd y contract newydd yn cael ei gyflwyno o 1 Ebrill ymlaen ac yn rhoi atal ac anghenion iechyd y geg pobl wrth wraidd y system newydd. 

Dyma'r diwygiad mawr cyntaf o'r contract deintyddol ers 20 mlynedd. Mae'n disodli'r model unedau o weithgaredd deintyddol, sy'n cymell galw cleifion iach yn ôl i gael archwiliadau bob chwe mis, gyda model sy'n cefnogi'n well atal clefydau'r geg a thriniaeth ar gyfer y rhai sydd angen hynny fwyaf. 

Mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi iechyd y geg y boblogaeth a sicrhau mynediad at wasanaethau ataliol a thriniaeth. Bydd diwygio contract deintyddol 2006 yn helpu i gryfhau deintyddiaeth y GIG, yn gwella mynediad i'r cyhoedd, ac yn sicrhau bod gwasanaethau yn cyd-fynd yn well ag anghenion y boblogaeth. Bydd hefyd yn gwella gwasanaethau atal ac ansawdd y gofal.

Mae'r contract newydd yn ganlyniad trafodaethau helaeth a gwaith datblygu rhwng y llywodraeth, cynrychiolwyr o'r proffesiwn deintyddol, a'r GIG. Rydym wedi ymgynghori ar y contract, wedi gwrando'n ofalus ar yr adborth a gafwyd ac wedi gwneud cyfres o newidiadau pwysig o ganlyniad, gan gynnwys cryfhau mynediad a pharhad gofal. 

Bydd y trefniadau newydd yn golygu y bydd pobl sydd angen triniaeth weithredol neu gymorth i gynnal eu hiechyd y geg yn cael eu gweld yn fwy rheolaidd. O dan y system newydd:

  • Bydd practisau yn cael taliadau i barhau i weld cleifion presennol ar gyfer apwyntiadau ailalw, gan roi rhyddid i ddeintyddion fonitro iechyd y geg yn seiliedig ar risg ac angen unigol.
  • Bydd y trefniadau contract newydd yn gweld cynnydd yn nhaliadau'r GIG i ddeintyddion, gyda chyfraddau ffioedd cyffredinol yn codi i £150 yr awr.
  • Bydd pobl sy'n talu am driniaeth y GIG yn cael eu costau wedi'u capio ar uchafswm o £384, waeth faint o ofal sydd ei angen arnynt. 

Mae tua hanner poblogaeth Cymru wedi'i heithrio rhag talu ffioedd deintyddol y GIG, gan gynnwys plant o dan 18 oed, menywod beichiog, cleifion deintyddol mewn ysbyty, a phobl sy'n cael budd-daliadau penodol. Bydd y cynllun incwm isel yn parhau i ddarparu cymorth gyda chostau deintyddol.

Mae'r diwygiadau hefyd yn cynnwys mwy o gyllid i ddeintyddion gymryd rhan yn y rhaglen datblygu clwstwr carlam, sydd â'r nod o gymell darpariaeth leol gryfach o wasanaethau'r GIG a mwy o ofal ataliol.

Mae'r contract newydd yn garreg filltir arwyddocaol i ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru, gan gynrychioli gwasanaethau tecach a mwy ymatebol ar gyfer y cyhoedd a'r proffesiwn.