Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Wrth i ni gyrraedd wythnos gwaith ieuenctid eto eleni, sy'n ddathliad blynyddol, nid oes amser gwell i dynnu sylw at sut mae gwaith ieuenctid yn cynnig cefnogaeth hollbwysig i bobl ifanc, gan ehangu eu gorwelion a'u grymuso i gyflawni eu potensial.
Wrth ymateb i'r argymhellion a wnaed gan y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn eu hadroddiad terfynol, 'Mae’n Bryd Cyflawni dros Bobl Ifanc yng Nghymru', rydym wedi cymryd camau i helpu i gryfhau gwaith ieuenctid yng Nghymru a sicrhau bod y cyfraniad gwerthfawr hwn yn cael ei werthfawrogi a'i ddeall yn well. Mae'r datblygiadau allweddol yn cynnwys:
- cwblhau adolygiad i feithrin gwell dealltwriaeth o'r ffynonellau cyllid ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru a nodi cyfleoedd i helpu i adeiladu cymorth mwy cynaliadwy
- sefydlu rhaglen datblygu'r gweithlu traws-sector i ddatblygu gweithlu medrus a all gefnogi anghenion esblygol pobl ifanc
- datblygu fframwaith statudol drafft ar gyfer gwaith ieuenctid.
Roedd argymhelliad arall gan y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn canolbwyntio ar sefydlu corff cenedlaethol posibl ar gyfer gwaith ieuenctid. Byddai'r corff hwn, ym marn y Bwrdd Dros Dro, yn helpu i ddatblygu dull mwy cydgysylltiedig o gynllunio a darparu gwaith ieuenctid, cefnogi arloesi a chydweithio yn ogystal â chodi proffil gwaith ieuenctid a meithrin gwell dealltwriaeth o'i effaith. Mae tystiolaeth wedi cael ei chasglu o ystod eang o ffynonellau yn ystod y misoedd diwethaf i edrych yn fanwl ar sut y gallai corff o'r math hwn helpu i gyflawni'r nodau hyn. Ar ôl ystyried y dystiolaeth hon yn ofalus, gallaf gadarnhau y byddwn nawr yn symud ymlaen i sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Er mwyn cynllunio cam nesaf y gwaith hwn, bydd grŵp cynghori, sy'n cynnwys pobl ifanc yn ogystal â chynrychiolwyr o bob rhan o'r sector gwaith ieuenctid a thu hwnt, yn cael ei sefydlu i edrych yn fanwl ar rôl a chylch gwaith corff cenedlaethol, ei strwythurau llywodraethu a sut mae'n cyd-fynd â sefydliadau eraill. Tasg y grŵp fydd helpu i sicrhau ein bod yn datblygu sefydliad sy'n cynrychioli'r sector yn ei gyfanrwydd, yn eirioli ar ran gwaith ieuenctid ac yn y pen draw yn gwella'r cynnig gwaith ieuenctid i bobl ifanc ledled Cymru.
Mae ein fframwaith statudol drafft ar gyfer gwaith ieuenctid yn nodi cynigion ar gyfer cryfhau'r sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, gan gyflwyno dull strwythuredig o gynllunio ac adrodd. Bydd y fframwaith hwn yn helpu i adeiladu gwell atebolrwydd a chynaliadwyedd ar gyfer gwaith ieuenctid. Mae gwaith gofalus wedi'i wneud yn ystod y misoedd diwethaf mewn partneriaeth â chynrychiolwyr ar draws y sector yn ogystal â'r Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid i ystyried y materion a godwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori ffurfiol a nodi cyfleoedd i gryfhau ein cynigion.
Bydd y gwaith hwn yn parhau dros y misoedd i ddod wrth i ni edrych yn fanwl ar rôl a chylch gorchwyl corff cenedlaethol i sicrhau bod y datblygiadau allweddol hyn wedi'u halinio'n llawn ac yn cefnogi gweledigaeth unedig ar gyfer dyfodol gwaith ieuenctid. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu maes o law ynghylch yr amserlen ar gyfer cwblhau a chyflwyno'r fframwaith hwn i sicrhau bod yr holl bartneriaid yn gallu cynllunio yn unol â hynny.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi ymgysylltu mor gadarnhaol â'r gwaith hwn hyd yn hyn. Hoffwn hefyd gydnabod cyngor amhrisiadwy y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid wrth i ni gyrraedd y garreg filltir bwysig hon. Bydd y dull cydweithredol a fabwysiadwyd drwy gydol y gwaith hwn yn parhau wrth i ni gymryd ein camau nesaf i gryfhau gwaith ieuenctid yng Nghymru.