Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn fy natganiad ym mis Mehefin ar waith allweddol sydd ar y gweill i sefydlu model cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y gwaith a'r camau nesaf.

Bryd hynny, cyhoeddais fy mhenderfyniad y dylid dechrau ar waith i sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae'n bleser gennyf adrodd bod cyfarfod cyntaf bwrdd cyflawni'r corff cenedlaethol wedi ei gynnal, sy'n garreg filltir arwyddocaol ar ein taith. Bydd y bwrdd cyflawni yn gyrru'r broses o greu'r corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, gan sicrhau cynnydd yn erbyn cerrig milltir penodol. Bydd yn darparu arweinyddiaeth, cyngor a her o ran cylch gorchwyl, cyllid, llywodraethiant ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd y bwrdd cyflawni hefyd yn alinio'r corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid â sefydliadau eraill, yn llunio is-grwpiau, ac yn defnyddio eu mewnwelediad i lywio ffrydiau gwaith, gan gefnogi strwythurau sefydliadol ac ariannol cadarn.

Dyma aelodau'r Bwrdd:

  • Sharon Davies - Pennaeth Addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Steve Davis - Prif Swyddog Ieuenctid, Cyngor Sir Penfro
  • Steve Drowley - Cadeirydd, Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru
  • Paul Glaze - Prif Weithredwr, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol
  • Loren Henry - Prif Weithredwr, Urban Circle
  • Sian Lewis - Prif Weithredwr, Urdd Gobaith Cymru
  • Catherine Taylor - Prif Swyddog Ieuenctid, Cyngor Sir Ddinbych

Rwy'n ddiolchgar i'r holl gydweithwyr hyn sydd wedi cytuno i gyfrannu o'u hamser a'u harbenigedd i gefnogi'r nod o sefydlu strwythur sy'n adeiladu ar gryfderau ein sector, yn eirioli ar ran gwaith ieuenctid, ac yn y pen draw yn gwella'r arlwy o ran gwaith ieuenctid i bobl ifanc ledled Cymru.

Yn gynharach eleni, ymgynghorais ar gynigion drafft ar gyfer fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid. Ar ôl ystyried yn ofalus gyngor a dderbyniwyd gan y sector gwirfoddol, awdurdodau lleol, Bwrdd Gweithredu'r Strategaeth Gwaith Ieuenctid a rhanddeiliaid ehangach, mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi penderfynu bwrw ati i gwblhau'r fframwaith statudol drafft yn derfynol. Bydd y fframwaith newydd, a fydd yn cynnwys cyfarwyddiadau a chanllawiau statudol, yn dod i rym erbyn Ebrill 2026. 

Bydd y fframwaith newydd yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i sicrhau bod gwaith ieuenctid yn cael ei ddarparu - mae hyn yn ddigynsail ac yn adlewyrchu fy ymrwymiad i ehangu manteision gwaith ieuenctid i fwy o bobl ifanc. Bydd y fframwaith hefyd yn cyflwyno strwythur cynllunio ac adrodd newydd a fydd yn galluogi Gweinidogion Cymru - ac, yn hollbwysig, pobl ifanc - i ddwyn y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gyfrif am benderfyniadau sy'n ymwneud â'r gwaith ieuenctid a gynigir yn eu hardal. 

Bydd y fframwaith newydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio cynlluniau strategol pum mlynedd – rwyf am fod yn glir bod disgwyl i'r cynlluniau strategol hyn gael eu datblygu a'u cyflawni mewn cydweithrediad agos â'r sector gwirfoddol a phartneriaid eraill. Yr hyn sydd orau i bobl ifanc yw'r peth pwysig, ac felly rwy'n disgwyl derbyn cynlluniau strategol sy'n cynrychioli dull partneriaeth – cronni adnoddau, gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y ffordd orau o ddiwallu anghenion pobl ifanc yn ein cymunedau, a hybu gwaith ieuenctid. Ar hyn o bryd bwriedir i'r cynlluniau strategol pum mlynedd cyntaf gychwyn ym mis Ebrill 2027, gan neilltuo cyfnod o ddechrau 2026 ymlaen i bartneriaid weithio gyda'i gilydd ar ddatblygu a chwblhau'r cynlluniau hyn yn derfynol.

Mae'r fframwaith statudol newydd a sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yn rhan o raglen waith ehangach a fydd, gyda'i gilydd, yn arwain at ddarpariaeth gwaith ieuenctid gryfach i bobl ifanc yng Nghymru. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu mewn ffordd mor gadarnhaol at y gwaith hwn hyd yma, ac edrychaf ymlaen at gydweithio pellach wrth inni fynd i'r afael â'r cam nesaf hwn o'r gwaith.