Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y dull o gyflwyno Corff Sgiliau Creadigol, un o'n hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu.

Yn ystod lansiad Cymru Greadigol, nodwyd bod sgiliau a chymorth ar gyfer doniau yn flaenoriaeth allweddol i'n sectorau creadigol. Ers mis Ionawr 2020, mae tîm sgiliau a thalent Cymru Greadigol wedi gweithio'n galed i wneud cysylltiadau rhwng rhanddeiliaid, diwydiant, darparwyr addysg a hyfforddiant i sicrhau manteision i'r sector sgrin a manteisio i'r eithaf ar adnoddau cyfyngedig.

Mae Cymru Greadigol wedi gweithio mewn partneriaeth ag undebau, darparwyr hyfforddiant, addysg bellach ac addysg uwch, darlledwyr, llywodraeth, diwydiant a chyda'r corff ScreenSkills ledled y DU, i gefnogi prosiectau sgiliau ac annog dull cydgysylltiedig ac osgoi dyblygu. Cefnogwyd cyfanswm o 12 prosiect, gan gynnwys y ganolfan ffilm a theledu genedlaethol newydd yng Nghymru, NFTS Cymru.

Rhaid i gynyrchiadau sy'n derbyn cyllid gan Cymru Greadigol ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i hyfforddeion ar ffurf lleoliadau â thâl. Caiff y rhain eu tracio a'u monitro i helpu i sicrhau llwybrau gyrfaoedd i'r holl hyfforddeion yn y dyfodol. Mae mwy na 120 o hyfforddeion wedi elwa ar leoliadau â thâl ar gynyrchiadau creadigol a gefnogir gan Cymru Creadigol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae Cymru Greadigol wedi gweithio gyda Sgiliau Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes i flaenoriaethu ailddatblygu fframwaith prentisiaeth Cyfryngau Creadigol a sefydlu cynllun peilot asiantaeth hyfforddi prentisiaethau newydd yn y sector sgrin yn Ne Cymru – Criw. Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn a byddwn yn cyflwyno model tebyg yng Ngogledd Cymru ac mewn sectorau creadigol eraill. 

Mae Cymru Greadigol hefyd yn gweithio'n agos gyda'n hadran addysg i sicrhau bod yr holl fentrau sgiliau â chymorth yn cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd.

Y cam nesaf fydd ehangu ei waith i gefnogi anghenion o ran sgiliau a doniau y sectorau creadigol eraill, y sectorau digidol, cerddoriaeth, cyhoeddi a'r sectorau sy'n datblygu.

Rwyf felly wedi penderfynu y bydd y corff sgiliau creadigol newydd yn cael ei gyflwyno'n fewnol drwy Cymru Greadigol – strwythur sydd eisoes wedi gweithio, gyda grŵp sgiliau wedi'i gadarnhau a swyddogaeth sgiliau a thalent Cymru Greadigol well. Byddwn yn cryfhau strwythur y grŵp sgiliau, sydd eisoes ag aelodaeth gref iawn o randdeiliaid, i gyflwyno grŵp llywio craidd i lywio ei waith ac adrodd yn ôl i fwrdd anweithredol Cymru Greadigol.

Bydd hyn yn ein helpu i gyflawni'r ymrwymiad hwn gan y Rhaglen Lywodraethu o fewn chwe mis tra'n adeiladu ar y gwaith sgiliau sydd eisoes yn cael ei gyflawni gan Cymru Greadigol. Bydd yn sicrhau adnoddau yn y dyfodol i ganolbwyntio ar gefnogi mentrau sgiliau creadigol a doniau yng Nghymru, yn hytrach na chael eu gwario ar gostau sefydlu sefydliad newydd. 

Bydd y dull hwn hefyd yn sicrhau bod gweithgarwch sgiliau creadigol yn y dyfodol yn cyd-fynd ag ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu i ddarparu'r Warant Pobl Ifanc, gan roi'r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed a chreu 125,000 o brentisiaethau o bob oed.