Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn awr wedi datgan bod yr achosion o coronafeirws yn Argyfwng Iechyd y Cyhoedd sy’n Peri Pryder Rhyngwladol (PHEIC). Mae’r Deyrnas Unedig hefyd wedi cadarnhau ei hachosion cyntaf o’r coronafeirws newydd – rhywbeth y mae Gweinidogion Iechyd y Deyrnas Unedig, y Prif Swyddogion Meddygol, asiantaethau iechyd y cyhoedd a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi bod yn paratoi ar ei gyfer.

Rwyf wedi cael y cyngor diweddaraf a ganlyn gan Brif Swyddog Meddygol Cymru:

Datganiad gan Brif Swyddog Meddygol Cymru ar Coronafeirws (2019-nCoV)

Rwy’n parhau i weithio’n agos iawn gyda Gweinidogion Iechyd eraill y Deyrnas Unedig i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn ysgrifenedig i Aelodau’r Cynulliad bob dydd Mawrth, ac yn amlach os oes angen.