Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn wreiddiol, cynghorodd Prif Swyddog Meddygol Cymru’r rhai a oedd fwyaf agored i effeithiau mwyaf difrifol COVID 19 i'w gwarchod eu hunain am gyfnod o 12 wythnos. Daw’r cyfnod cychwynnol o 12 wythnos i ben ar 15 Mehefin ac mae Prif Swyddog Meddygol Cymru bellach wedi cadarnhau'r camau nesaf ar gyfer y grŵp hwn o bobl.
Ar 31 Mai, gwnaeth Prif Swyddog Meddygol Cymru ddiweddaru ei gyngor i'r rhai sy'n gwarchod eu hunain. O 1 Mehefin roedd y cyngor yn caniatáu ymarfer diderfyn yn yr awyr agored, ac yn nodi hefyd y gallai'r rhai sy'n gwarchod eu hunain gyfarfod ag aelodau o un aelwyd arall yn yr awyr agored, cyhyd ag y glynir wrth arferion cadw pellter a hylendid llym. Er mai newidiadau digon bach yw’r rhain, roeddent yn newid sylweddol ar gyfer y rhai sy’n gwarchod eu hunain, gan nad oedd rhai ohonynt wedi gadael eu cartrefi ers dros ddeg wythnos.
Bydd llythyrau newydd oddi wrth Brif Swyddog Meddygol Cymru yn dechrau cael eu hanfon cyn hir at y rhai sy'n gwarchod eu hunain, gan gadarnhau'r newidiadau a gyhoeddwyd ddydd Sul 31 Mai a hefyd yn gofyn i'r rhai sy'n gwarchod eu hunain barhau i wneud hynny am gyfnod pellach. Nid oes dim newidiadau eraill yn cael eu gwneud i'r Cyngor i'r rhai sy'n gwarchod eu hunain ar hyn o bryd. Dylai pobl sy'n gwarchod barhau i ddilyn yr holl gyngor arall a roddwyd yn flaenorol. Ni ddylent fynd i siopa na mynd i'r gwaith y tu allan i'w cartref. Dylent barhau â’r drefn o gael bwyd a meddyginiaeth wedi’u cyflenwi ar eu cyfer.
Er y bu modd gwneud newidiadau i rywfaint o'r cyngor ar ymarfer corff a chyfarfod â phobl y tu allan, nid yw'r feirws wedi diflannu ac felly byddai'n annoeth cyflwyno unrhyw lacio pellach ar y cyngor ar hyn o bryd. Mae'r datganiad diweddaraf gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn cael ei gyhoeddi yma er gwybodaeth ichi.
At y dyfodol, bydd Prif Swyddog Meddygol Cymru yn dechrau adolygu'r cyngor ar gyfer y rhai sy'n gwarchod eu hunain yn yr un cylch â'r adolygiad o'r rheoliadau ar gyfyngiadau symud. Er hynny, nid ydym yn disgwyl y bydd unrhyw lacio pellach yn bosibl ar gyfer y grŵp hwn am beth amser ac felly rydym wedi ymrwymo i ysgrifennu eto at y rhai sy'n gwarchod eu hunain erbyn 16 Awst.
Er y bydd y newidiadau cyfyngedig i’r cyngor yn galondid i rai pobl, bydd parhau i orfod gwarchod eu hunain yn neges anodd i bobl eraill. Rwyf yn cydnabod bod cael eich cynghori i beidio â mynd i'r gwaith neu i'r ysgol neu i wneud eich siopa eich hun yn heriol ac yn rhwystredig, ond mae'r cyngor hwn ar gael er diogelwch y rhai sy'n gwarchod eu hunain. Er hynny, dylwn bwysleisio mai cyngor ac nid cyfarwyddyd yw hwn. Yn union fel y mae gan bob un ohonom ddewisiadau i'w gwneud drosom ein hunain a'n teuluoedd wrth inni ddod allan o gyfyngiadau symud, bydd y rhai sy'n gwarchod eu hunain hefyd am ddewis sut i ymateb a sut orau i reoli eu bywydau. Mae'r cyngor yn bodoli er diogelwch unigolion.
Rwyf yn dymuno ailadrodd fy niolch blaenorol i'r rhai sydd wedi bod mor ddiwyd wrth warchod eu hunain - gan eu diogelu eu hunain yn ogystal â diogelu ein GIG. Rwyf yn cydnabod mor heriol fu'r misoedd diwethaf hyn, gyda bron dim cyswllt wyneb yn wyneb ag eraill.
Rwyf yn parhau i fod yn hynod o falch o bawb sy’n parhau i ddarparu'r cymorth hanfodol i alluogi pobl i’w gwarchod eu hunain. Mae ein partneriaid yn yr Awdurdodau Lleol, fferyllfeydd, gwirfoddolwyr a manwerthwyr bwyd mawr wedi parhau i wneud ymdrechion mawr i wneud gwarchod yn bosibl ac rwyf yn ddiolchgar iddynt am eu hymrwymiad parhaus.