Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae defnyddio cosbrestrau yn gwbl annerbyniol ac rwy’n cydymdeimlo’n llwyr â’r unigolion a’u teuluoedd sydd wedi dioddef anghyfiawnder sylweddol yn sgil yr arfer hwn gan gontractwyr.

Mae’r pryderon sydd wedi’u mynegi gan yr unigolion hynny a’r undebau sy’n eu cynrychioli yn bwysig dros ben i mi.

Mae caffael yn rhan bwysig o fesurau polisi cyffredinol Llywodraeth Cymru. Rwy’n ymrwymedig i sicrhau bod gwariant caffael cyfunol sector cyhoeddus Cymru yn cael ei ddefnyddio i sicrhau’r gwerth gorau am arian a chefnogi manteision cymunedol, gan gynnwys darparu hyfforddiant a chyfleoedd am waith. Nid yw’n dderbyniol o dan unrhyw amgylchiadau i fusnesau sy’n derbyn gwariant caffael cyhoeddus ddefnyddio cosbrestrau i atal pobl yng Nghymru rhag cael gwaith.

Rwyf mewn cysylltiad â Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU ac rwyf hefyd yn monitro’r ymchwiliad sy’n cael ei gynnal drwy’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Albanaidd. Byddaf yn sicrhau ein bod yn defnyddio’r mesurau sydd ar gael i gryfhau’n polisi caffael a helpu i roi terfyn ar yr arfer annerbyniol o gosbrestru.

Yn fuan bydd fy swyddogion yn Gwerth Cymru yn cyhoeddi canllawiau i holl gyrff cyhoeddus Cymru i bwysleisio’r ddeddfwriaeth berthnasol sydd ar waith i fynd i’r afael â chosbrestru a’r arferion caffael mwyaf trylwyr ar gyfer dewis cyflenwyr, pennu amodau contract a rheoli’r broses gyflenwi.