Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi cytuno i sefydlu cynllun arbennig sy'n rhoi cymorth ariannol o £60,000 i’r rhai sy’n gymwys i fod yn fuddiolwyr i staff rheng flaen, yn enwedig y rhai sy'n gweithio yn y GIG a’r maes gofal cymdeithasol, petaent yn marw o ganlyniad i effaith COVID-19.

O dan y cynllun, bydd buddiolwyr cymwys yn cael swm untro o £60,000 a bydd hyn yn arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n gweithio mewn swyddi rheng flaen ac mewn lleoliadau lle darperir gofal personol i unigolion a allai fod wedi dal COVID-19.

Gofynnir i’n gweithwyr rheng flaen fynd y tu hwnt i ofynion eu dyletswyddau arferol wrth ddarparu gofal a gwasanaethau i gleifion ac unigolion, ac mae’r cynllun hwn yn mynd ran o’r ffordd tuag at gynnig mwy o dawelwch meddwl a sicrwydd ariannol i’w hanwyliaid.

Nid yw’r cynllun yn dibynnu ar gyfraniadau gan staff, ac nid oes unrhyw gostau ychwanegol i’r cyflogwyr. Bydd y cynllun yn rhoi swm untro o £60,000 i’r sawl sy’n gymwys i fod yn fuddiolwr i’r unigolyn, waeth beth oedd ei gyflog.

Mae’n cynnig sicrwydd i staff cymwys sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen, ac sydd efallai yn anghymwys i ymuno â’r cynllun pensiwn neu sydd wedi penderfynu peidio â gwneud hynny am resymau ariannol. O ran y rhan fwyaf o staff sy’n aelodau o’r cynllun pensiwn, mae’n darparu lefel ychwanegol o ddiogelwch ariannol yn ychwanegol at y sicrwydd y maent wedi ei brynu drwy’r cynllun pensiwn ei hun. Mae’r cynllun hefyd yn cefnog rhai o’n staff sydd ar y cyflog isaf drwy gynnig cyfandaliad waeth beth yw lefel eu cyflog presennol.

Bydd y cynllun ar waith am gyfnod penodol, gan ei fod yn darparu sicrwydd ariannol yn ystod y pandemig COVID-19 a bydd yn ôl-weithredol o 25 Mawrth.

Drwy ein trefniadau partneriaeth gymdeithasol cadarn, byddwn yn cydweithio â’n partneriaid allweddol ar fanylion y cynllun a sut y bydd yn cael ei weithredu yng Nghymru.