Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth i ail wythnos y cyfnod atal byr yng Nghymru ddechrau, mae Gweinidogion wedi cyfarfod dros y penwythnos i drafod y mesurau cenedlaethol newydd, a fydd ar waith o 9 Tachwedd ymlaen.

Rydym yn parhau i gadarnhau manylion y mesurau hyn a byddaf yn gwneud datganiad pellach i’r Senedd yfory.

Yn sgil cyhoeddiad annisgwyl Prif Weinidog y DU dros y penwythnos ynglŷn â mis o gyfyngiadau yn Lloegr o ddydd Iau ymlaen, rydym wedi gorfod addasu rhai o’n cynlluniau, ond bydd y cyfnod atal byr yng Nghymru yn dod i ben fel y bwriadwyd ar 9 Tachwedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr effaith y bydd y cyfyngiadau yn Lloegr yn ei chael ar y camau nesaf yng Nghymru. Byddant yn cael effaith ar bobl sy’n byw yng Nghymru ond yn gweithio yn Lloegr; ar gwmnïau sy’n gweithredu yng Nghymru yn ogystal ag yn Lloegr ac ar fusnesau sy’n masnachu ar hyd y ffin.

Pan ddaw’r cyfnod atal byr i ben, bydd set newydd o fesurau cenedlaethol yn dod i rym, gan ddisodli’r cyfyngiadau lleol blaenorol. Byddwn unwaith eto’n gweithredu’n bwyllog ac yn llacio’r cyfyngiadau yn raddol er mwyn sicrhau bod y cyfnod atal byr yn cael yr effaith fwyaf posibl ar y coronafeirws. Byddwn yn adolygu’r sefyllfa ar ôl pythefnos i weld a allwn wneud newidiadau pellach i’r mesurau cenedlaethol.

O ddydd Llun nesaf ymlaen, bydd dwy aelwyd yn cael ymuno â'i gilydd i ffurfio un aelwyd estynedig – neu swigen. Er mwyn helpu i gadw pawb mor ddiogel â phosibl yn eu cartrefi, dim ond pobl o'ch aelwyd eich hun neu’ch aelwyd estynedig fydd yn cael cwrdd yn eich cartref preifat. 

Ar ôl 9 Tachwedd, bydd trefniadau newydd ar gyfer cyfarfod dan do mewn lleoliadau eraill, fel tafarndai, bariau, caffis a bwytai. Gan y bydd yr holl leoedd hyn ar gau yn Lloegr, rydym yn gorfod meddwl ymhellach ynglŷn â sut y gall y sector lletygarwch yng Nghymru, yn arbennig, weithredu o dan yr amgylchiadau newydd hyn. Bydd yr ystyriaethau hyn yn parhau drwy gydol y dydd heddiw.

Bydd hyd at 15 o bobl yn cael cymryd rhan mewn gweithgaredd dan do wedi'i drefnu, a hyd at 30 mewn gweithgareddau wedi'u trefnu yn yr awyr agored, ar yr amod bod yr holl fesurau cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo a mesurau diogelwch eraill o ran COVID-19 yn cael eu dilyn. 

Bydd ysgolion yn ailagor yn llawn o ddydd Llun nesaf ymlaen.

Bydd gweithio gartref yn dod yn bwysicach fyth.

Bydd pob safle busnes sydd wedi bod ar gau ers 23 Hydref yn cael ailagor ar 9 Tachwedd.

Bydd gwasanaethau awdurdodau lleol yn ailddechrau, gan adlewyrchu amgylchiadau lleol, a bydd addoldai hefyd yn cael ailagor.

Ni fydd cyfyngiadau teithio yng Nghymru, ond yn ystod y cyfnod o fis o gyfyngiadau yn Lloegr ni fydd hawl i deithio y tu allan i Gymru heb esgus rhesymol. 

Hoffwn ddiolch i bawb am eu holl gefnogaeth hyd yma yn ystod y cyfnod atal byr. Gyda’n gilydd rydyn ni’n diogelu Cymru.