Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Paratoi at ddod dros argyfwng iechyd cyhoeddus COVID-19 yw’r her fwyaf yr ydym wedi’i hwynebu fel Llywodraeth ddatganoledig. Bydd y gwaith hanfodol hwn yn effeithio ar bob rhan o fywyd pawb yng Nghymru; bydd yn hollbwysig i wasanaethau cyhoeddus, i’r economi ac i’r gymdeithas.

Rwy wedi gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd arwain y gwaith hanfodol hwn.

Fe fydd yn goruchwylio’r gwaith o fewn Llywodraeth Cymru, drwy ymateb i’r argyfwng a chael arbenigedd a phrofiad o’r tu allan i’r Llywodraeth. A hynny er mwyn sicrhau bod ein paratoadau at ddod yn ôl i drefn yn y dyfodol yn rhai creadigol a chynhwysfawr.

Bydd rhagor o fanylion am waith paratoi at adferiad ar gyfer y dyfodol yn cael eu cyhoeddi maes o law.