Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn roi gwybod i’r Aelodau am ein cynlluniau i ehangu gweithgarwch o dan y llinyn Profi i Ddarganfod yn ein Strategaeth Brofi wrth inni ddechrau llacio’r cyfyngiadau.

Rydym yn gwybod nad oes gan hyd at un o bob tri sy’n cael prawf positif am y coronafeirws unrhyw symptomau o gwbl ac y gallant, felly, ei ledaenu yn ddiarwybod iddynt. Mae ein Strategaeth Brofi, drwy’r dull Profi i Ddarganfod, yn cydnabod bod nodi ac ynysu achosion COVID-19 yn y gymuned yn gyflym yn lleihau trosglwyddo haint, yn cefnogi gwaith olrhain cysylltiadau, yn diogelu unigolion agored i niwed ac yn helpu i arafu neu atal lledaeniad y clefyd.

Canfu gwerthusiad o’r cynllun peilot profi asymptomatig ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon Isaf ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr, a gyhoeddwyd ar 22 Mawrth, fod yr ymyrraeth yn gosteffeithiol iawn a’i bod wedi cael effaith gadarnhaol, uniongyrchol ar lefel COVID-19 a oedd ar led yn y cymunedau hynny. Mae’r canfyddiadau’n nodi ei bod yn debygol bod profion asymptomatig wedi cyfrannu at y gostyngiad a fu mewn cyfraddau achosion COVID-19, ar ôl gweithredu’r cynllun peilot a chyflwyno’r cyfyngiadau symud cenedlaethol ar 20 Rhagfyr 2020. Amcangyfrifir y cafodd 353 o achosion o COVID-19 eu hatal, sy’n golygu 24 o dderbyniadau i’r ysbyty, 5 derbyniad i Unedau Gofal Dwys a 14 o farwolaethau a fyddai wedi digwydd fel arall.

Mae profion cymunedol wedi bod ar waith mewn rhannau o Ben-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf ers dechrau mis Mawrth. Gan ddysgu o’r cynllun peilot, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a’i bartneriaid yng Nghynghorau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf wedi targedu cymunedau sydd â niferoedd ystyfnig o uchel o COVID-19. Mae partneriaid hefyd yn cynnig profion rheolaidd i bobl na allant weithio gartref, yn enwedig y rhai mewn gwasanaethau cysylltiad agos megis gyrwyr tacsis, trinwyr gwallt a gweithwyr manwerthu.

Gan adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd ac i gefnogi ein cynlluniau i ailagor yr economi, rwy’n cyhoeddi heddiw amserlen estynedig ar gyfer y rhaglen profi cymunedol hyd ddiwedd mis Medi. Bydd hyn yn helpu i reoli brigiadau o achosion ac yn targedu ardaloedd lle ceir cynnydd cyflym mewn achosion ac sy’n parhau i fod â chyfraddau heintio ystyfnig o uchel. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid lleol a rhanbarthol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer safleoedd profi asymptomatig a hybiau casglu. Yn ogystal ag ehangu profi cymunedol mewn safleoedd profi, byddwn yn defnyddio sianeli dosbarthu newydd i alluogi pobl na allant gael profion yn y gweithle na gweithio gartref i gael profion i’w cymryd eu hunain gartref.

Ein nod yw gwneud profion asymptomatig rheolaidd mor gyfleus a hygyrch â phosibl i bobl na allant weithio gartref a’u haelwydydd drwy ddatblygu nifer o sianeli gwahanol gan gynnwys modelau casglu a danfon. Bydd y rhain yn dechrau cael eu cyflwyno yn yr wythnosau nesaf.

Bydd ehangu Profi i Ddarganfod yn rhoi mwy o hyblygrwydd i bartneriaid ledled Cymru benderfynu pryd a ble i gyflwyno profion asymptomatig i ymateb i unrhyw gynnydd a welir mewn achosion, gan helpu i ddiogelu pobl wrth inni lacio’r cyfyngiadau’n raddol.