Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnes gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar 5 Ebrill 2020 er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynghylch capasiti gofal critigol a chymorth anadlu.

Nodais yn y datganiad nifer y peiriannau anadlu sydd ar gael ar hyn o bryd o fewn GIG Cymru a disgrifiais y cynlluniau ar gyfer caffael peiriannau anadlu ychwanegol. Roedd hyn yn cynnwys caffael 1,035 o beiriannau anadlu gan Gydwasanaethau GIG Cymru a thrwy drefniadau yn y DU.

O blith y peiriannau anadlu mewnwthiol yr oeddem yn disgwyl eu derbyn drwy drefniadau yn y DU adeg y datganiad, a ddiwygiwyd ar ôl hynny i 461, rydym wedi derbyn 46 ohonynt.

O blith y 270 o beiriannau deuddiben (mewnwthiol ac anfewnwthiol) sydd wedi’u caffael gan Gydwasanaethau GIG Cymru, rydym wedi derbyn 130 ohonynt hyd yma ac maent oll wedi’u dosbarthu i’r byrddau iechyd.

O blith y 380 o beiriannau anfewnwthiol yr oeddem wedi disgwyl eu derbyn drwy drefniadau yn y DU adeg y datganiad, a ddiwygiwyd ar ôl hynny i 369, rydym wedi derbyn 177 ohonynt.

Mae’r broses o gyflenwi’r peiriannau anadlu sydd wedi’u caffael drwy Gydwasanaethau GIG Cymru a threfniadau yn y DU wedi bod yn broses raddol dros gyfnod o 13 o wythnosau, ar sail yr amcanestyniad gwreiddiol y byddai nifer yr achosion ar ei uchaf ym mis Mehefin/Gorffennaf.

Tra bo achosion o COVID-19 yng Nghymru nid oes prinder wedi bod o safbwynt peiriannau anadlu o fewn y GIG yng Nghymru.

Yng Nghymru mae 386 o welyau gofal critigol neu welyau cymorth anadlu mewnwthiol ar gael ar hyn o bryd. Mae 43% o’r nifer uwch yma o welyau yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd ond mae’n bwysig cydnabod bod nifer y gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd lawer yn uwch na’r nifer arferol o welyau gofal critigol yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i holl staff y GIG sy’n gweithio fel rheol ym maes gofal critigol a hefyd i’r staff sydd wedi’u trosglwyddo i weithio mewn lleoliadau gofal critigol. Mae gwaith di-flino a thosturi ein staff dros yr wythnosau diwethaf yn enghreifftiau o’n GIG ar ei orau.