Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn fy natganiad llafar ar 13 Mehefin rhoddais y newyddion diweddaraf am y gwaith sylweddol sy’n cael ei wneud i gefnogi addysgu sgiliau digidol fel rhan o’r gwaith i ddiwygio’r cwricwlwm. Yn y datganiad hwnnw awgrymais y byddwn yn gwneud datganiad pellach ar sut y byddwn ni yn cefnogi datblygu sgiliau codio ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

Heddiw, mae’n bleser gen i lansio ‘Cracio’r Cod – cynllun i ehangu clybiau codio ym mhob rhan o Gymru.’  Mae’r cynllun hwn yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag ysgolion, colegau, consortia, prifysgolion, busnesau, diwydiant a’r trydydd sector i gefnogi addysgu sgiliau codio o fewn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan iddi, a hynny mewn ardaloedd lleol ledled Cymru.

Fel rhan o’r ymgyrch genedlaethol sydd gan Lywodraeth Cymru i wella safonau addysg, rydym wedi gwneud cryn gynnydd i sicrhau bod ein dysgwyr yn gymwys yn y maes digidol ac y gallant fynd o nerth i nerth yn y byd modern digidol sydd ohoni. Er mwyn llwyddo fel cenedl ac unigolion, mae angen i ni hwyluso pob dysgwr i ddatblygu yn awduron creadigol ym maes technoleg, gan sicrhau eu bod yn fedrus iawn wrth ddefnyddio’r dechnoleg honno.  Er mwyn cyrraedd y nod hwn, mae angen i’n dysgwyr allu codio, sy’n rhan bwysig o sylfaen ein byd modern.

Mae modd datblygu sgiliau codio ar draws ystod eang o bynciau o fewn y cwricwlwm a thrwy glybiau codio.  Bydd y Cwricwlwm Cymru newydd sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan Ysgolion Arloesi yn cynnwys cyfrifiadura o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg.  Ond nid oes rhaid i ni aros tan fod pob ysgol yn addysgu’r cwricwlwm newydd.  Yn awr, rwyf eisiau annog rhagor o ysgolion i ddatblygu ffyrdd llawn hwyl sy’n cydio yn y dychymyg ac yn help i ddysgwyr feithrin dealltwriaeth o’r cod.  Mae clybiau codio yn ffordd o gyflwyno a datblygu sgiliau codio sydd wedi ennill ei phlwyf. Mae’n darparu profiadau dysgu sy’n cyfoethogi athrawon a dysgwyr ac sydd, yn eu tro, yn rhoi cyfle iddynt roi cynnig ar bethau newydd.

Er mwyn cefnogi cyflawni Cracio’r Cod byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i gyflawni gwell dysgu ym maes codio. Daw hyn o dan dri cham strategol:

  1. Codi ymwybyddiaeth o fanteision clybiau codio ymhlith penaethiaid, athrawon, dysgwyr a rhieni.
  2. Chwalu’r rhwystrau rhag cymryd rhan mewn clybiau codio.
  3. Broceru a hwyluso profiadau codio.
Rhoddir £1.3m yn gefnogaeth i’r cynllun dros dymor y Cynulliad hwn. Mae’r arian hwn yn cael ei roi i’r consortia addysg rhanbarthol.  Bydd y cyllid yn caniatáu i ysgolion a chonsortia rhanbarthol ddarparu lle a chapasiti i athrawon gydweithio â phartneriaid ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae llawer o ysgolion eisoes yn cydweithio ag ysgolion eraill a phartneriaid i ddarparu sgiliau codio.  Wrth lansio ‘Cracio’r Cod ’ rwy’n falch o gael cyfle i gyhoeddi bod y partneriaid a ganlyn wedi dangos cefnogaeth i weithio mewn partneriaeth i symud ymlaen gyda’r cynllun hwn:
  • Bafta
  • Big Learning Company - partner addysgol swyddogol Lego®
  • British Council
  • BT Barefoot Computing
  • Colegau yng Nghymru
  • Cyfrifiadura yn yr Ysgol (CAS)
  • Microsoft Education
  • Sefydliad Raspberry Pi a Code Club
  • Y Llu Awyr Brenhinol
  • Sony UK Technology Centre
  • Technocamps
  • Prifysgolion yng Nghymru
Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol nac yn gyflawn.  Dyma ddechrau ein taith gyda’n gilydd wrth i ni anelu at roi lle amlwg i sgiliau codio drwy fwrw ati i ddiwygio’r cwricwlwm.

Fel rhan o’r fenter hon byddwn yn lansio Rhaglen beilot arloesol Minecraft Education gyda Microsoft UK.  Bydd y peilot yn dod ag ysgolion ag addysgwyr ledled y wlad ynghyd i gefnogi datblygiad sgiliau digidol pobl ifanc drwy ddefnyddio Minecraft: Education Edition Code Builder a rhannu’r arferion gorau yn yr amgylchedd deinamig hwn.