Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Hydref 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad a oedd yn gofyn am sylwadau ynghylch cynnig i newid enw Addysg Grefyddol. Ymysg yr enwau yr ymgynghorwyd yn eu cylch roedd “Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg” a “Crefyddau a Bydolygon”. 

Roedd yr ymatebion yn dangos cefnogaeth glir i newid enw Addysg Grefyddol.

Y dewis mwyaf poblogaidd yn ôl y rhai a ymatebodd oedd ‘Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg’. Gallaf gadarnhau, felly, o 2022 ymlaen, y bydd Addysg Grefyddol yn cael ei ailenwi yn “Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg” yn y cwricwlwm newydd.

Mae Fframwaith wedi cael ei ddatblygu i roi canllawiau ar y berthynas rhwng Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, y Maes Llafur Cytunedig a’r Meysydd Dysgu a Phrofiad yn ein cwricwlwm newydd. Rydym yn bwriadu ymgynghori ar y fframwaith drafft yn fuan.