Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a CAF eu cyfleuster gweithgynhyrchu modern cyntaf ar gyfer trenau yng Nghymru. Mae'r ffatri bron â'i chwblhau, ac mae trenau i'w defnyddio gan bobl Cymru yn dechrau cael eu hadeiladu yno cyn bo hir.

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddais fanylion y gwasanaeth rheilffyrdd newydd, trawsnewidiol, carbon isel ar gyfer Cymru a'r Gororau.  

Mae Keolis UK wedi cyhoeddi y bydd yn symud ei bencadlys o Lundain i swyddfa newydd yng Nghymru erbyn 2019, a bydd yn adleoli ei is-adran rheilffyrdd byd-eang o Baris i Gymru erbyn 2020.  Yn y cyfamser mae Amey wedi cadarnhau hefyd ei fod i agor canolfan ddylunio newydd yng Nghymru, ble y bydd yn cynnig gwasanaethau ymgynghori ac yn creu rhagor o swyddi pan fydd y cwmnïau yn agor canolfan cydwasanaethau a chyswllt cwsmeriaid i ddarparu gwasanaethau i'r ddau fusnes. Mae'r swyddi hyn yn ychwanegol i'r 600 o swyddi a'r 30 o brentisiaethau y flwyddyn a gyhoeddwyd ar y cychwyn.

O ddechrau o'r dechrau ychydig flynyddoedd yn ôl, mae Cymru bellach yn datblygu fel cartref i'r diwydiant rheilffyrdd yn y DU.  Ond megis dechrau yw hyn.  Rwyf am i Gymru gael ei chydnabod ledled y DU ac Ewrop fel canolfan bwysig i'r diwydiant rheilffyrdd. Roedd y Cynllun Gweithredu Economaidd yn arwydd o ddull newydd o greu cyfleoedd i ddatblygu ein heconomi. Rwyf bellach yn dechrau pennod newydd o weithredu'r cynllun hwnnw.

Rydym wedi gweld cyfle i ymateb i ofynion amlwg y prif gwmnïau rheilffordd i sefydlu 'Canolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd' yng Nghymru. Byddai hyn yn cynnig cyflymu y broses o arloesi mewn dull bwrpasol, yn profi cerbydau a seilwaith, storio, datgomisiynu, cynnal a gwasanaethu asedau'r diwydiant a'r gadwyn gyflenwi ehangach.

Mae'r achos amlinellol strategol yr wyf wedi'i gymeradwyo wedi dal sylw a dychymyg nifer sylweddol o randdeiliaid y diwydiant rheilffyrdd gan gynnwys teithwyr a gweithgynhyrchwyr trenau cludo nwyddau, cwmnïau cerbydau, gweithredwyr y rhwydwaith a'r gwasanaeth, cyrff masnachol, Sefydliad Ymchwil Rheilffyrdd y DU a'r gadwyn gyflenwi ehangach.

Mae hefyd yn glir o'r hyn y maent wedi ei ddweud wrthym bod angen arweinyddiaeth o fewn y sector cyhoeddus gyda theimlad cryf o bwrpas yn economaidd ac yn gymdeithasol, i roi'r cyfle gorau i'r prosiect seilwaith strategol hwn lwyddo. Mae Cymru yn darparu'r arweinyddiaeth honno.

Felly hoffwn egluro beth yw'r prosiect. Pam y mae'n bwysig o'i ran ei hun ac fel catalydd.  Sut y gall fod y cyntaf yn y DU. Yr hyn yr ydym wedi'i wneud hyd yma, a'r hyn a ddaw nesaf.

Mae'r diwydiant rheilffyrdd a'i gadwyn gyflenwi yn cyflogi 216,000 o bobl - niferoedd tebyg i'r diwydiant telathrebu. Wedi'i cyfuno, mae'r diwydiant a'r gadwyn gyflenwi yn cynhyrchu dros £10 biliwn o werth ychwanegol gros bob blwyddyn.  Mae refeniw blynyddol y diwydiant bron yn £10 biliwn. Datblygodd cyfanswm y milltiroedd gan deithwyr 120% yn y 21 mlynedd rhwng 1995/6 a 2016/17. Mae disgwyl i'r galw gan deithwyr ddyblu eto dros y 30 mlynedd nesaf.  Mae tueddiadau byd-eang yn debyg i hyn. Mae hyn wedi arwain at lefelau buddsoddi na welwyd mohonynt o'r blaen o ran seilwaith a cherbydau ac mae'r broses hon yn barhaus - er gwaethaf y penderfyniad i ganslo y bwriad i drydaneiddio y prif reilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe.

Mae buddsoddi sylweddol hefyd yn Rhwydwaith Sefydliad Ymchwil Rheilffyrdd y DU sydd wrthi'n datblygu, ac yn canolbwyntio ar Brifysgolion gan gynnwys Birmingham, Leeds, Huddersfield a Southampton.   Rwyf am i Gymru chwarae rhan mwy amlwg.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyfrifo bod oddeutu 6000 o weithwyr yn y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru. Mae hwn yn nifer sylweddol ond er mwyn sicrhau cymesuredd mae'n amlwg bod angen inni ddatblygu presenoldeb y diwydiant yma yng Nghymru. Felly wrth inni frwydro am gyfran deg o fuddsoddiad strategol y DU, mae'n amlwg, fel Llywodraeth Cymru, bod yn rhaid i ninnau fod yn ddewr a phroactif.

Mae heriau mawr o safbwynt y diwydiant yn ehangach.  Mae gan rwydwaith rheilffyrdd y DU gofnod diogelwch rhagorol.  Ond mae costau gweithredu yn uchel.  Mae ein rhwydwaith yn llawn.  Mae arloesi, moderneiddio, datblygu ac integreiddio technolegau newydd, rhoi gweledigaeth ar waith am reilffordd ddigidol, symud i ffwrdd o diesel i ffynonellau bateri newydd wedi'i ddatgarboneiddio a phŵer hydrogen yn ogystal â cherbydau trydan - mae'r rhain yn flaenoriaethau sylfaenol ar i ddatblygu a gwella rhwydweithiau a gwasanaethau y DU ac ar gyfer sicrhau allbynnau gweithgynhyrchu ac allforio uwch.

Fel y mae ein gwaith dros y misoedd diwethaf yn ei gadarnhau, mae problem ddifrifol yn y DU.  Rwyf am i Gymru ei datrys.

Mae'r prif gyfleusterau yn Ewrop i brofi a dilysu seilwaith a cherbydau yn yr Almaen a'r Weriniaeth Tsiec. Nid oes gan y DU lawer o gyfleusterau profi, a dim traciau profi hirgrwn mawr wedi'u trydaneiddio - ac mae'r gweithgynhyrchwyr ym Mhrydain yn mynd mor bell â dweud wrthym bod hyn yn golygu bod diffyg cystadleuaeth yn y DU fel canolfan weithgynhyrchu. Mae'n rhaid iddynt symud trenau ar draws cyfandir cyfan ar gyfer profi hanfodol cyn dod â hwy yn ôl i'r DU i'w gwasanaethu, gan ychwanegu amser, anghyfleuster a chostau i bopeth y maent yn ei wneud.

Mae hyn hefyd yn gysylltiedig â sicrhau cyfleusterau i ddatblygu arloesi y tu hwnt i'r labordy, ac i'r cam ble y mae'n rhaid dylunio, adeiladu, addasu, profi, dilysu ac achredu prototeip a'i gynhyrchu yn fasnachol. Dyma Ymchwil a Datblygu yn y pen masnachol, sy'n dibynnu ar weithio mewn amgylchedd real, ddeinamig, ond ar wahân i'r rhwydwaith o deithwyr byw.  

Mae'r DU hefyd yn wynebu argyfwng o ran ei chapasiti i storio cerbydau gwerthfawr sy'n aros i gael eu gwasanaethu, eu hadnewyddu neu eu datgomisiynu. Mae hyn fel arfer yn asedau sy'n werth miliynau o bunnoedd ac mae'n rhaid iddynt gael eu cadw mewn lle diogel pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.

Rydym wedi edrych ar nifer o safleoedd posibl ledled Cymru. Nid yw'r broses honno wedi dod i ben o bell ffordd. Ond rydym wedi dod o hyd i opsiwn yr ydym yn ei ffafrio. Sef y safle gwaith glo brig nad yw bellach yn cael ei ddefnyddio yn Nant Helen, ar ffin Powys/Castell-nedd Port Talbot a safle golchfa Onllwyn sy'n dal i weithio.   Mae'r ardal hon ar ben Cwm Dulais wedi bod yn ddibynnol ar y diwydiant glo ers cenedlaethau. Mae'r cyfnod hwnnw bellach yn dod i ben. Felly mae posibiliadau enfawr yma am fuddsoddiad a allai ddefnyddio'r sgiliau presennol yn ogystal â sgiliau newydd, bod yn gatalydd ar gyfer ein diwydiant rheilffyrdd newydd yng Nghymru, a chynnig partneriaeth a gwasanaeth gwerthfawr iawn i'r diwydiant yn y DU a'r gadwyn gyflenwi. Mae hwn hefyd yn brosiect allai wneud cyfraniad pwysig i gyflawni amcanion Tasglu'r Cymoedd gan gynnig swyddi o safon uchel a'r sgiliau i'w gwneud.

Nid dim ond profi a storio yw hyn fodd bynnag, na'r cannoedd a mwy o bobl sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol yn y ganolfan brofi integredig a'r cannoedd mwy fydd yn ei hadeiladu. Mae hefyd yn golygu datblygu cyfleoedd ar gyfer BBaChau domestig a'r gadwyn gyflenwi ehangach, a denu'r diwydiant rheilffyrdd i ddewis Cymru fel canolfan.

Felly, i'r perwyl hwn, mewn egwyddor rwyf hefyd wedi dangos fy mrwdfrydedd i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i gryfhau y gwaith academaidd a'r ymchwil a'r datblygu yma yng Nghymru. Rwyf am ystyried ymhellach sefydlu rhaglen ymchwil a chreu Cadeirydd newydd ym maes Arloesi Peirianneg Rheilffyrdd mewn partneriaeth â'n Prifysgolion yng Nghymru a Phrifysgolion eraill ledled y DU.  Gall Gymru ddod yn fwy deinamig wrth lunio dyfodol y diwydiant rheilffyrdd gartref a thramor.

Rwyf yn hapus iawn â'r gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma.  Rwyf felly wedi gofyn i swyddogion symud ymlaen i gam nesaf datblygu achos busnes.  Bydd hyn yn golygu parhau i weithio a chydweithio yn agos.  Nid yw hwn yn brosiect allai fynd yn ei flaen heb gefnogaeth leol, buddsoddiad y sector preifat ac ymrwymiad y gweithgynhyrchwyr, cwmnïau cerbydau, cwmnïau'r rhwydwaith ac amrywiol randdeiliaid eraill i'w gefnogi nawr ac yn y dyfodol.

Rydym ar hyn o bryd yn amcangyfrif y byddai cyfleuster pwrpasol fel hwn yn golygu cost o bron gan miliwn o bunnoedd.  O ystyried yr angen yr ydym wedi'i weld ledled y DU a thu hwnt am gyfleuster o'r math yma, rydym yn credu bod hwn yn brosiect y gallai'r sector preifat dalu amdano.  Yn y cyfamser, gwaith y llywodraeth yw sefydlu prosiect y gellid buddsoddi ynddo, o ystyried y manteision a ddaw o sefydlu cyfleuster o'r fath yng Nghymru.

Nid wyf am wneud gormod o addewidion ac yna beidio â chyflawni digon. Ond rwyf yn datgan yn gyhoeddus heddiw, os y gallwn grynhoi y brwdfrydedd sylweddol yr ydym wedi'i weld hyd yma, yna bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i ymroi i gamau nesaf y prosiect hwn. Uwchgynllunio, cynllunio ariannol a masnachol, datblygu ceisiadau cynllunio: mae pob un ohonynt yn ddarnau pwysig o waith a byddaf wrth gwrs yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r aelodau o ddatblygiadau prosiect Canolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yng Nghymru fel y bo'n briodol.