Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Mae'r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio yn nodi ein gweledigaeth i wneud Cymru yn genedl sydd o blaid pobl hŷn, ac sy'n cefnogi pobl i fyw a heneiddio'n dda. Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, ers 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £3.8 miliwn i ariannu swydd bwrpasol ym mhob awdurdod lleol i hyrwyddo cymunedau sydd o blaid pobl hŷn a sicrhau aelodaeth o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar.
Rwy'n gweithio mewn partneriaeth â'r Comisiynydd Pobl Hŷn i gefnogi awdurdodau lleol i ymuno â’r Rhwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd. Mae 12 awdurdod lleol wedi llwyddo i sicrhau aelodaeth ac mae 5 arall yn bwriadu gwneud cais erbyn 31 Mawrth 2026. Mae'r 5 awdurdod lleol sy'n weddill yn gweithio'n galed i fodloni'r meini prawf cadarn ar gyfer ymgeisio.
Mae aelodaeth o'r Rhwydwaith wedi darparu ffordd glir a strwythuredig i awdurdodau lleol ailwerthuso gwasanaethau i bobl hŷn, deall lle mae angen gwelliannau a sicrhau bod egwyddorion oed‑gyfeillgar yn cael eu cynnwys mewn gwaith bob dydd. Hyd yn oed i'r rhai nad ydynt yn aelodau eto, mae'r broses o ymgeisio yn annog cydweithredu ar draws ystod o sectorau a myfyrio beirniadol.
Mae gwerthusiad diweddar yn dangos bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru wedi bod yn gatalydd i awdurdodau lleol drawsnewid eu dull o greu cymunedau oed-gyfeillgar drwy fuddsoddi mewn pobl a phartneriaethau. Mae awdurdodau lleol wedi datgloi gallu eu staff eu hunain a rhanddeiliaid allanol i weithio gyda'i gilydd mewn ffyrdd newydd. Y canlyniad dro ar ôl tro yw cynllunio a darparu gwasanaethau yn fwy cydlynol i oedolion hŷn, cynnwys lleisiau pobl hŷn yn amlach, a nifer o fentrau cydweithredol – o welliannau ymarferol iawn i wasanaethau, i raglenni cymunedol creadigol.
Fel un enghraifft, ddoe ymwelais â Chwtsh Cydweithio Abertawe sy'n cael cefnogaeth gan gydlynydd oed-gyfeillgar. Mae'r Cwtsh yn ofod ymgysylltu â'r gymuned sy'n cynnig ystod o weithgareddau sydd â'r nod o wella llesiant corfforol a meddyliol. Er bod y fenter yn cael ei hwyluso gan staff, mae bob amser wedi cael ei harwain a'i datblygu mewn cydweithrediad agos â phobl 50 oed a hŷn yn Abertawe. Mae gwrando ar y rhai sy'n mynd i'r sesiynau ymgysylltu a dysgu ganddynt wedi bod yn ganolog i lwyddiant y fenter.
Mae'r rhaglen yn dangos sut mae cyllid oed‑gyfeillgar wedi helpu i greu diwylliant cryfach o weithio gyda phobl hŷn, nid er eu lles nhw yn unig. Mae awdurdodau lleol yn ymgymryd â rôl alluogi drwy gefnogi grwpiau pobl hŷn i wneud cais am gyllid, cynnal eu sefydliadau neu feithrin sgiliau a hyder. Mae gwirfoddoli wedi dod yn rhan bwysig o'r gwaith hwn, gan roi mwy o gyfleoedd i bobl hŷn gwrdd ag eraill, aros yn egnïol a chyfrannu at eu cymunedau.
Mae pobl hŷn bellach yn cymryd mwy o ran mewn cynllunio ac arwain gweithgareddau lleol ac mae eu syniadau yn siapio beth sy'n digwydd yn eu cymunedau lleol.
Er bod heriau'n parhau, mae'r darlun cyffredinol yn gadarnhaol iawn. Ar draws Cymru, mae ymrwymiad ar y cyd i ddathlu cyfraniadau pobl hŷn ac adeiladu cymunedau sy'n galluogi pawb i heneiddio'n dda.
Mae model Cymru o strategaeth drawsbynciol ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio, Comisiynydd Pobl Hŷn a chefnogaeth ariannol bwrpasol i awdurdodau lleol i gefnogi cymunedau oed-gyfeillgar wedi cael ei nodi gan Sefydliad Iechyd y Byd fel enghraifft o arfer da yn rhyngwladol.
Mae Cymru'n gadarn ar y llwybr i ddod yn genedl sydd o blaid pobl hŷn, ac mae'r rhaglen hon wedi chwarae rhan ganolog o ran gwireddu'r uchelgais honno.
