Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n cyhoeddi heddiw ragolwg o’m blaenoriaethau ar gyfer pennu cyfeiriad polisi a chyfeiriad strategol fy adran (gweler yr atodiad).  

Mae’r papur sy’n nodi’r blaenoriaethau sef Creu Dyfodol Cadarnach a Mwy Ffyniannus, yn cyflawni tri amcan. Yn gyntaf, mae’n disgrifio sut bydd fy adran i’n cyfrannu at amcanion, gweledigaethau ac uchelgeisiau’r llywodraeth hon. Yn ail, mae’n cadarnhau sut rwy’n disgwyl cyrraedd y targedau a osodwyd gan y Rhaglen Lywodraethu a gwella arnynt pryd bynnag y bo modd. Yn drydydd, mae’n rhoi rhestr glir o fentrau y byddaf i’n atebol amdanynt dros y flwyddyn nesaf. Yn gryno felly, mae’r papur yn amlinellu gwaith fy adran i ac yn sefydlu fframwaith clir i fesur ein cyrhaeddiad a’n cyraeddiadau.

Mae Creu Dyfodol Cadarnach a Mwy Ffyniannus yn dangos y camau gweithredu uniongyrchol mae fy adran i’n eu cymryd i gyflawni hyn.