Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies, Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym yn cydnabod y pwysau parhaus sydd ar awdurdodau lleol drwy Gymru i ddarparu gwasanaethau sy’n cefnogi plant a’u teuluoedd, ynghyd â phoblogaeth sy'n heneiddio sydd ag anghenion gofal mwyfwy cymhleth. Ar yr un pryd maent yn rheoli galw cynyddol ac yn wynebu hinsawdd economaidd heriol.

Mae’r pwysau hyn wedi mynd yn waeth oherwydd bod Llywodraeth y DU yn parhau â'i chyfyngiadau ar wariant cyhoeddus ac oherwydd effeithiau parhaus ei diwygiadau i’r  system les a threthi, sydd wedi taro ein cymunedau mwy difreintiedig yn arbennig o wael.  

Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwaith caled awdurdodau lleol Cymru a’u hymroddiad i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel er gwaethaf yr heriau hyn. I gydnabod hyn ac er mwyn helpu i sicrhau bod ein gwasanaethau cymdeithasol yn gynaliadwy, byddwn yn rhoi swm untro ychwanegol o £10 miliwn i’r awdurdodau lleol yn y flwyddyn ariannol hon.  

Y bwriad y tu ôl i'r cyllid hwn yw helpu'r awdurdodau lleol i ymateb i'r pwysau sydd ar eu gwasanaethau ar hyn o bryd. Hefyd, i’w rhoi mewn sefyllfa well i allu cynllunio ar gyfer y galw a’r heriau sy’n siŵr o godi yn ystod y gaeaf hwn, ac ymateb iddynt, gan sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol craidd mewn sefyllfa i allu rheoli galw cynyddol neu annisgwyl mewn modd effeithiol. Rydym yn cadw at ein hymrwymiad i sicrhau bod llywodraeth leol yn cael mwy o hyblygrwydd yn y modd y mae'n defnyddio ei hadnoddau, a chyfrifoldeb yr awdurdodau lleol fydd penderfynu sut y dylid defnyddio'r cyllid ychwanegol hwn i helpu i gyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

Rhaid i ddull gweithredu ataliol fod yn ganolog i’r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu. Felly, gallai hyn olygu bod angen helpu i ymateb i heriau sy'n ymwneud â'r gweithlu, megis nifer y staff sy'n gadael a nifer y swyddi gwag, y ddibyniaeth gynyddol ar staff asiantaeth, a'r angen i ddarparu datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn helpu i greu gweithlu cynaliadwy. O ran gwasanaethau plant, gallai hynny olygu canolbwyntio ar liniaru'r pwysau presennol megis costau lleoliadau neu wella'r cymorth a'r cyngor cychwynnol a roddir i deuluoedd. O ran pwysau'r gaeaf, gallai olygu cynllunio ar gyfer ymateb i alw ychwanegol am adnoddau gofal cymdeithasol, megis pecynnau gofal cartref, gwelyau ailalluogi, a gwasanaethau gofal a thrwsio, er mwyn galluogi'r gwasanaethau cymdeithasol i roi cymorth i bobl yn eu cartrefi a'u cymunedau.
   
Drwy roi'r cyllid ychwanegol hwn i helpu awdurdodau lleol i ymdopi â'r pwysau sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn bresennol, rydym yn gobeithio y bydd yn bosib cynyddu eu gallu i weithio ochr yn ochr â ni yn 2019-20 i barhau i ddatblygu gwasanaethau cymdeithasol sy'n gadarn ac yn gynaliadwy. Mae’r cyllid newydd hwn yn rhan o strategaeth fuddsoddi i helpu awdurdodau lleol i gynllunio a darparu gwasanaethau cydlynol ar gyfer plant ac oedolion, gan ganolbwyntio ar ein nod cyffredin, sef gwella canlyniadau i bobl y mae angen gofal a chymorth arnynt.