Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf y Coronafeirws 2020, cyhoeddais ddoe, hysbysiad yn addasu dros dro ofynion y cwricwlwm sylfaenol yng Nghymru a'r trefniadau asesu cysylltiedig ar gyfer ysgolion a lleoliadau meithrin nas cynhelir sy'n cael eu cyllido (y rhai oedd yn cael eu cyllido yn unol â threfniadau gyda llywodraeth leol).

Rwy'n dweud yn glir y dylai ysgolion ddarparu'r cymorth gorau posibl i ddysgwyr o dymor yr hydref ymlaen. Cyhoeddais ganllawiau dysgu a chanllawiau gweithredol ym mis Gorffennaf 2020 er mwyn helpu ysgolion, gan bwysleisio'r angen i ddiogelu dysgwyr ac athrawon ynghyd â'r flaenoriaeth sy’n cael ei rhoi i hybu lles a pharhau i ddysgu. 

Rwy'n cydnabod y bydd rhai beichiau ychwanegol yn parhau i fod ar ysgolion ym mis Medi, wrth iddynt dderbyn dysgwyr yn ôl i'r ysgolion a'r meithrinfeydd, a cheisio symud ymlaen i addysgu a dysgu mewn ffyrdd uchelgeisiol ym mhob maes allweddol. Bydd heriau ymarferol yn codi hefyd, wrth reoli cysylltiadau rhwng gwahanol ddysgwyr (yn arbennig wrth ddysgu chwaraeon, cerddoriaeth a gwyddoniaeth ymarferol), cyfnodau o hunanynysu i unigolion neu grwpiau a sefyllfaoedd eraill a allai godi.

Gan ystyried y peryglon a'r heriau hyn, yn arbennig i gynnydd parhaus y dysgwyr, rwyf wedi penderfynu addasu'r cwricwlwm sylfaenol a'r gofynion asesu cysylltiedig i weithredu ar sail ymdrech resymol am 30 diwrnod cyntaf mis Medi. Bydd hyn yn darparu hyblygrwydd i ysgolion, lle bo angen, i dderbyn eu myfyrwyr yn ôl a datblygu cynllun ar gyfer dysgu dros yr hydref sy'n gadarn ac yn berthnasol ym mhob sefyllfa weithredol. Gobeithio y bydd hyn hefyd yn ddefnyddiol i rieni, gan gofio'r ansicrwydd ynghylch peryglon y coronafeirws.   

Ymysg y darpariaethau sydd wedi cael eu haddasu fel bod gofyn i ysgolion wneud ymdrech resymol i gyflawni eu dyletswydd mae:

  • Adran 101 o Ddeddf Addysg 2002 ("Deddf 2002") sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion a gynhelir yng Nghymru ddarparu cwricwlwm sylfaenol gan gynnwys; y cwricwlwm cenedlaethol, addysg grefyddol, addysg bersonol a chymdeithasol, addysg gysylltiedig â gwaith ac ar gyfer ysgolion uwchradd, addysg rhyw.
  • Adran 109 o Ddeddf 2002 sy'n ei gwneud yn ofynnol i Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru gael ei roi ar waith mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, ac adran 110 sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei roi ar waith mewn ysgolion meithrin a gynhelir a rhai lleoliadau addysg feithrin eraill yng Nghymru.
  • Adrannau 116A i 116K o Ddeddf 2002, sy'n gwneud darpariaeth am gwricwla lleol gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol darparu isafswm penodol o ddewisiadau i bobl ifanc: 25 dewis CA4 gydag o leiaf 3 dewis galwedigaethol, a 30 dewis ôl-16 gydag o leiaf 5 dewis galwedigaethol.
  • Gorchmynion a wnaed dan adran 108 o Ddeddf 2002 yn ymwneud â'r cwricwlwm cenedlaethol sy'n gosod gofynion ar ysgolion i gyflawni:
  • Deilliannau dymunol, rhaglenni addysg a threfniadau asesu ar gyfer darpariaeth Cyfnod Sylfaen.
  • Targedau cyrhaeddiad, trefniadau asesu gan gynnwys cymedroli a rhaglenni astudio mewn perthynas â Chyfnodau Allweddol 2, 3 a 4.
  • Profion rhesymu ar bapur ac asesiadau rhifedd a darllen personol ar-lein ar gyfer pob dysgwr ym Mlynyddoedd 2 i 9.
  • Adran 69 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 sy'n cynnwys dyletswydd i sicrhau darpariaeth ddyladwy addysg grefyddol
  • Adran 43 o Ddeddf Addysg 1997 sy'n darparu addysg gyrfaoedd mewn ysgolion yng Nghymru.

Mae addasu dyletswyddau i fod ar sail ymdrechion rhesymol yn golygu bod rhaid i berson wneud pob ymdrech resymol i gyflawni'r ddyletswydd. Os bydd yn methu er gwaethaf pob ymdrech resymol, bydd y ddyletswydd yn cael ei hystyried wedi'i chyflawni.

Rwy'n dweud yn glir bod yr addasiad hwn yn rhoi hyblygrwydd i ysgolion o ran cydymffurfio â'u dyletswyddau lle bo angen yr hyblygrwydd hwnnw. Rwy'n annog ysgolion i barhau i ddefnyddio trefniadau asesu priodol fel asesiadau personol, lle bo hyn yn briodol yn eu cyd-destun lleol ac ar gyfer anghenion eu dysgwyr.

Fel sy'n orfodol dan y pwerau yn Neddf y Coronafeirws 2020, bydd yr hysbysiad yn gymwys am gyfnod o fis o 1 Medi i 30 Medi 2020. Byddaf yn parhau i adolygu hyn.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
 

Gellir gweld copi o'r hysbysiad yma: https://llyw.cymru/hysbysiad-addasu-gofynion-y-cwricwlwm-yng-nghymru-2020