Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym yn falch iawn o groesawu Rocio Cifuentes yn Gomisiynydd Plant newydd Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio gyda hi yn ystod ei chyfnod saith blynedd yn y swydd, a ddechreuodd ar 20 Ebrill.

Mae gan Ms Cifuentes gyfoeth o brofiad ar gyfer y rôl bwysig hon. A hithau yn brif weithredwr y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, mae hi wedi arwain un o’r prif sefydliadau yng Nghymru sy’n cefnogi cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio gyda Llywodraeth Cymru, ar ôl gwasanaethu ar sawl bwrdd cynghori Gweinidogion, gan gynnwys y Bwrdd Cynghori Ieuenctid ar gyfer Fforwm Hil Cymru a Thasglu Ffoaduriaid Cymru.

Mae ganddi sgiliau arwain cadarn a phrofiad helaeth fel llysgennad plant a phobl ifanc, a bydd hi’n defnyddio’r rhain i gefnogi lleisiau plant a phobl ifanc.

Penodwyd Ms Cifuentes yn dilyn proses recriwtio drawsbleidiol fanwl, proses a oedd hefyd yn cynnwys plant a phobl ifanc. Hi fydd pedwerydd Comisiynydd Plant Cymru, gan olynu’r Athro Sally Holland.

Sefydliad hawliau dynol annibynnol a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw swyddfa’r Comisiynydd Plant. Mae’r comisiynydd yn gweithredu’n annibynnol ar Weinidogion Cymru er mwyn gallu arfer ei swyddogaethau statudol, gan gynnwys ei phwerau i adolygu gweithgareddau Llywodraeth Cymru.

Rydym yn croesawu Ms Cifuentes fel y Comisiynydd newydd ac yn diolch i’r Athro Holland am ei gwasanaethau i blant a phobl ifanc Cymru, gan ddymuno’n dda iddi i’r dyfodol.