Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn ystod y Datganiad Busnes yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mehefin, trafodwyd tollau agored.

Rwyf wedi cael adroddiad gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cludo Nwyddau Cymru ac wedi derbyn yr holl argymhellion sydd ynddo sy’n ymwneud â’m portffolio i.  Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio hefyd wedi derbyn yr argymhellion sy’n effeithio ar ei bortffolio ef.  Gallwch ddarllen yr adroddiad ar lein.

Rydym yn gweithio trwy’r argymhellion ac wrthi’n eu rhoi ar waith.  Fe gysylltaf â chi eto’n ddiweddarach eleni gyda’r diweddaraf am y sefyllfa.

Un o’r argymhellion oedd bod Llywodraeth Cymru’n gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ystyried gosod technoleg tollau agored ar Groesfannau’r Hafren os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu peidio â symud y tollau pan ddaw’r Consesiwn presennol i ben.

Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gofyn iddo ystyried yr achos.

Wrth ystyried gosod technoleg tollau agored, mae’n rhaid sicrhau na fydd cost y tollau’n  gorfod cynyddu i dalu am y dechnoleg newydd.  Rwyf wedi tynnu sylw at hyn yn fy llythyr.