Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru heddiw yn lansio cylch newydd o'r gronfa Arloesi i Arbed, sy'n gweithredu ochr yn ochr â'n cronfa lwyddiannus Buddsoddi i Arbed.

Pan lansiwyd y gronfa £5m Arloesi i Arbed fis Chwefror diwethaf, roeddem mewn cyfnod o gyni parhaus ac roedd angen i'r holl wasanaethau cyhoeddus feddwl a gweithio'n wahanol er mwyn parhau i ddarparu'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt.

Flwyddyn yn ddiweddarach, nid oes unrhyw arwydd bod Llywodraeth y DU yn troi cefn ar ei pholisi cyni niweidiol na rhoi'r hwb ariannol y mae cymaint o'i angen ar wasanaethau cyhoeddus ar draws y DU. O ganlyniad, mae'r angen am newid yn parhau mor bwysig ag erioed.

Llwyddodd cylch cyntaf y gronfa Arloesi i Arbed i ddenu 50 o geisiadau o bob cwr o sector cyhoeddus a thrydydd sector Cymru. Dros yr haf, fe gafodd pob un o'r ceisiadau hyn eu hasesu o ran eu haddasrwydd a'u parodrwydd gan ystyried y safbwynt sydd wedi’i sefydlu yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Dewiswyd rhestr fer o wyth prosiect i gychwyn ar y cam ymchwil a datblygu, ac fe brofwyd y syniadau a'u datblygu'n ehangach cyn gwneud cais am gyllid ad-daladwy i symud ymlaen â'r cynnig. Mae'r broses hon yn parhau i fynd rhagddi, ac fe fydd yn cael ei chwblhau fis nesaf.  

Wrth lansio ail gylch cyllido, ein nod yw parhau â'r momentwm ac adeiladu ar y syniadau a'r cynigion arloesol a gyflwynwyd llynedd. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda Nesta a Phrifysgol Caerdydd (drwy drefniant Y Lab) a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Bydd strwythur sylfaenol y gronfa yn parhau'r un fath - cymysgedd o grant nad oes angen ei ad-dalu ac elfen ad-daladwy - ond bydd rhai newidiadau i'r broses er mwyn adlewyrchu'r profiadau a'r hyn a ddysgwyd yn ystod y cylch cyntaf.  

Bydd cyfnod ymgeisio estynedig, gyda chymorth wedi'i dargedu i'r sefydliadau sy'n datblygu eu syniadau a chyfnod ymchwil a datblygu hyblyg i ystyried natur amrywiol y prosiectau.

Bydd modd i bob rhan o sector cyhoeddus a thrydydd sector Cymru ymgeisio am gyllid Arloesi i Arbed. Llynedd cyflwynwyd amrywiaeth eang o gynigion, o effeithiolrwydd presgripsiynu cymdeithasol i edrych ar ffyrdd newydd o helpu cymunedau dan fygythiad llifogydd arfordirol a dirywiad hirdymor.

Gobeithio y bydd amrywiaeth debyg o gynigion yn dod i law eleni, gan gynhyrchu arbedion sy'n rhyddhau arian i'w ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau a gwella canlyniadau i bobl, gan gynnwys ansawdd eu bywydau.  

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i Aelodau'r Cynulliad.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.