Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Y llynedd, cyhoeddodd fy rhagflaenydd, Carl Sargeant AC, fel y Gweinidog Tai ac Adfywio, fod Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio yn dod o dan reolaeth uniongyrchol y Gweinidog.  Gwnaethpwyd y penderfyniad hwn oherwydd yr ansicrwydd parhaus a achoswyd gan astudiaeth Swyddfa Archwilio Cymru i'r amgylchiadau sy'n gysylltiedig â gwerthu asedau tir gan y Gronfa.   
Wrth inni aros i astudiaeth Swyddfa Archwilio Cymru gael ei chwblhau, rwyf wedi penderfynu y dylid parhau i atal gweithgareddau buddsoddi'r Gronfa dros dro.  Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd yn y Gronfa.  Rwyf felly wedi casglu y byddai'n briodol nawr I gomisiynu'r Gronfa i gynnal adolygiad o sut y gellid targedu y benthyciadau yr oedd y Gronfa yn eu buddsoddi, yn y ffordd orau ar gyfer prosiectau adfywio yng Nghymru yn y dyfodol.  Cynhelir yr adolygiad gan Reolwr y Gronfa Fuddsoddi, Amber Fund Management Limited, o dan ymrwymiadau contractiol presennol y Gronfa.
Bydd angen i'r broses adolygu gynnwys Awdurdodau Lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a datblygwyr y sector preifat.  Bydd yn bosibl i'r adolygiad ystyried datblygiadau mwy diweddar, gan gynnwys y buddsoddiad hollbwyisg yr ydym yn ei wneud o dan y Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.  Mae'r Gronfa Fuddsoddi yn parhau i gefnogi cynllun canol tref Castell-nedd.  Bydd statws prosiectau eraill a oedd wedi gwneud cais i'r Gronfa yn y gorffennol yn cael eu hystyried fel rhan o'r adolygiad.  Ar wahân i gynllun Castell-nedd, ni fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud  ar sut y dylid buddsoddi'r adnoddau sy'n gysylltiedig â'r Gronfa tan i'r adolygiad gael ei gwblhau.  
Byddwn yn parhau i gynnig pob cymorth i alluogi'r Archwilydd Cyffredinol i gwblhau'r gwaith sydd ei angen er mwyn cyhoeddi ei adroddiad cyn gynted â phosib.  Byddaf yn gwneud datganiad arall i Aelodau'r Cynulliad unwaith y byddwn wedi penderfynu ar ganlyniad yr adolygiad hwn.