Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio 

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Diben y datganiad hwn yw cyhoeddi fy mhenderfyniad y dylai gweithgareddau buddsoddi Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, ar eu ffurf bresennol, ddod i ben. Hoffwn hysbysu’r Aelodau fy mod yn cymryd camau heddiw i sicrhau fy mod bellach yn rheoli’r Gronfa yn uniongyrchol. Fy mwriad yw sicrhau bod yr adnoddau sydd eisoes ynghlwm wrth y Gronfa yn cael eu darparu er mwyn buddsoddi mewn cymunedau ledled Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl.

Bydd yr Aelodau eisoes yn ymwybodol o’r ffaith bod gweithgareddau buddsoddi’r Gronfa wedi cael eu hatal dros dro gan fy rhagflaenydd ym mis Hydref 2012. Gwnaed y penderfyniad hwn yn sgil ymchwiliadau gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch amgylchiadau a oedd ynghlwm wrth werthu asedau tir y Gronfa. Rydym hefyd wedi bod yn cydweithio’n agos iawn â Swyddfa Archwilio Cymru ers hynny. Mae fy Adran hefyd wedi comisiynu ymchwiliadau ar wahân sy’n ceisio pennu a allai’r moratoriwm ar weithgareddau’r Gronfa ddod i ben yn y tymor byr. 

Pwysleisiais i’r Cynulliad ym mis Gorffennaf fod fy hyder yng Nghronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio wedi cael cryn ergyd yn sgil effaith gronnol ymchwiliadau sydd wedi’u cynnal dros y misoedd diwethaf. Mae’r ymchwiliadau hyn yn parhau o hyd ac o’r herwydd rwyf wedi dod i’r casgliad na allaf godi’r moratoriwm ar weithgareddau’r Gronfa. Gwn mai effaith hynny, heb gamau pellach, fyddai estyn yr ansicrwydd ynghylch y Gronfa. Rwyf hefyd yn llwyr ymwybodol o’r ffaith y byddai gwneud dim yn golygu na fyddai adnoddau a ddylai fod ar gael i’w buddsoddi yn ein cymunedau  yn cael eu defnyddio.  

Ar ôl ymgynghori â Bwrdd Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio rwyf wedi dod i’r casgliad y dylem ddirwyn gweithgareddau buddsoddi’r Gronfa, ar eu ffurf bresennol, i ben. Bydd hyn yn sicrhau bod modd ailddyrannu’r adnoddau sydd ynghlwm wrth y Gronfa ar hyn o bryd ar gyfer prosiectau eraill sy’n cynnal swyddi a thwf ar draws Cymru. Bydd fy Adran i yn derbyn cyfrifoldeb uniongyrchol am oruchwylio’r Gronfa yn ystod y broses hon.

Bydd angen i’n blaenoriaethau cychwynnol gynnwys asesiad trylwyr o brosiectau’r Gronfa sydd eisoes ar y gweill ynghyd â’i hasedau, ei rhwymedigaethau a’i hatebolrwyddau. Bydd angen i ni ymwneud â rhanddeiliaid er mwyn pennu’r ffordd orau o gyflawni’r hawliau a’r rhwymedigaethau sy’n weddill o safbwynt Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio. Byddwn hefyd yn trefnu bod buddsoddiad Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio yng Nghastell-nedd a Phort Talbot yn parhau yn unol â’r disgwyl. Rwy’n parhau’n ymrwymedig i wneud popeth o fewn fy ngallu i ddiogelu cymaint â phosibl o brosiectau buddsoddi sydd eisoes ar y gweill gan Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio. Bydd angen i ni gydweithio ag Amber sef rheolwyr y Gronfa er mwyn cyflawni hyn. Rwyf hefyd yn falch fod y Gweinidog Cyllid wedi cytuno i gefnogi’r broses hon.  

Mae’r Gronfa yn cynnwys peth cyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac rwy’n cydnabod y bydd angen i WEFO wneud penderfyniad ynghylch posibilrwydd ailddyrannu cyllid Ewropeaidd yn sgil fy mhenderfyniad. Bydd fy mhenderfyniad yn helpu i sicrhau bod cyllid Ewropeaidd ar gael o hyd, fel bod modd ei ddefnyddio mewn modd effeithiol yng Nghymru. Bydd hefyd yn sicrhau na fydd unrhyw effaith andwyol ar fuddiannau’r rhaglen ehangach.

Ni fydd unrhyw un o’r camau hyn yn effeithio ar ymchwiliadau Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch gweithgareddau Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio sydd ar waith o hyd. Bydd fy swyddogion yn parhau i gynnig pob cymorth er mwyn sicrhau y gall adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y materion hyn gael ei gwblhau cyn gynted â phosibl.