Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Diben y Datganiad hwn yw gwneud cyhoeddiad pwysig am Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW). Mae’r Datganiad yn adlewyrchu’r cydweithio agos sydd wedi digwydd rhwng fy adran i a Swyddfa Archwilio Cymru ers i Huw Lewis wneud ei Ddatganiad ef i’r Aelodau ar 7 Chwefror 2013. Bryd hynny, cadarnhaodd Huw Lewis bod gweithgareddau buddsoddi’r Gronfa wedi’u hatal dros dro ym mis Hydref 2012 yn dilyn cyhoeddiad Swyddfa Archwilio Cymru eu bod yn parhau i ymchwilio’n ehangach i werth am arian rhai agweddau ar fusnes y Gronfa. Roedd Datganiad mis Chwefror yn cyfeirio hefyd at ddau adolygiad y byddai Llywodraeth Cymru’n eu comisiynu i ategu ymchwiliad y Swyddfa Archwilio – y naill yn edrych ar drefniadau llywodraethu’r Gronfa a’r llall yn edrych ar y cyngor proffesiynol a dderbyniwyd gan y Gronfa yn ystod y broses o werthu’r asedau tir a gyflwynwyd yn eiddo iddi yn wreiddiol. Y nod, wrth gomisiynu’r ddau adolygiad, oedd cynhyrchu tystiolaeth ynghylch priodoldeb codi’r gwaharddiad ar weithgareddau’r Gronfa.

Nid yw’r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma wedi gwaredu’r pryderon ynghylch y modd y cafodd asedau tir y Gronfa eu gwerthu. Golyga’r ffaith na chafodd asedau tir RIFW eu gwerthu ar y farchnad agored fod cwestiynau cymhleth ynghylch a gafwyd y gwerth gorau am arian wrth werthu’r asedau hyn, yng nghyd-destun cynllun busnes y Gronfa ar y pryd. Yn naturiol, mae hyn yn peri gofid mawr. Mae gen i bryderon mawr ynghylch rhai agweddau eraill ar weithrediadau cynnar y Gronfa yn ogystal a bydd angen mynd i’r afael â’r rhain fel rhan o’r gwaith sy’n mynd rhagddo. Byddaf yn cyflwyno Datganiad mwy manwl ynghylch y materion hyn ar ôl ymgynghori’n drylwyr â Bwrdd RIFW ac â rheolwr y Gronfa, sef Amber. Bydd canlyniadau ein hadolygiadau yn cael eu cyflwyno i ymchwiliadau Swyddfa Archwilio Cymru a bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn adrodd yn ôl ar ei ganfyddiadau maes o law.

Fy nghyfrifoldeb i yn awr yw penderfynu ar y camau nesaf. Ar sail y cyngor yr wyf i wedi’i dderbyn, rwyf wedi dod i’r casgliad bod rhaid parhau â’r moratoriwm hwn ar weithrediadau’r Gronfa. Oherwydd yr ansicrwydd parhaus y mae hyn yn ei achosi, ynghyd â’r pryderon ynghylch canlyniadau dechreuol y gwahanol ymchwiliadau, rwyf wedi colli hyder yn RIFW fel cyfrwng effeithiol ar gyfer dyrannu cyllid adfywio ac mae gen i amheuon mawr ynghylch dyfodol y Gronfa. O ganlyniad, yr wyf wedi gofyn i’m swyddogion ddechrau trafodaethau brys gydag Amber i weld pa opsiynau allai sicrhau bod modd neilltuo cyllid adfywio yn brydlon i brosiectau dichonadwy sydd eisoes wedi’u cymeradwyo gan RIFW er gwaethaf y moratoriwm sydd ar y Gronfa dan ei chyfansoddiad presennol.

Rwyf wedi gofyn i’r gwaith hwn gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Awst. Byddaf yn gwneud Datganiad pellach am y canlyniad ar ôl y toriad.