Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:
Ar 19 Rhagfyr 2017, gwnaeth Regeneration Investment Fund for Wales LLP ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn Amber Fund Management a Lambert Smith Hampton Group Limited yn Llysoedd Busnes ac Eiddo Cymru am dorri contract ac esgeuluster proffesiynol . Roedd hyn yn ymwneud â gwerthu parseli o dir sy’n eiddo i’r cyhoedd i South Wales Land Developments Limited yn 2012. Mae John Whiting CF o One Crown Office Row a Peter Ratcliffe o 3 Verulam Buildings yn cynrychioli Regeneration Investment Fund for Wales LLP ac fe’u cyfarwyddir gan Geldards LLP.

Mae’r papurau wedi eu cyflwyno i’r partïon perthnasol. Byddaf yn gwneud datganiadau pellach maes o law.