Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 13 Awst cafodd Cronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd ei lansio, gyda’r nod o ychwanegu gwerth at nifer bach o brosiectau eithriadol sy’n ein helpu i gyflawni ein hamcanion craidd mewn perthynas â chyfranogiad Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA, cystadleuaeth y dynion, yn Qatar. Mae’r rhain yn cynnwys: hyrwyddo Cymru; rhannu ein gwerthoedd; sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru yn y digwyddiad; a sicrhau gwaddol cadarnhaol a pharhaus.

Derbyniwyd cyfanswm o 97 cynnig a oedd werth £7.1 miliwn gan amrediad o sefydliadau, sy’n cynrychioli cymysgedd amrywiol o weithgareddau sy’n ategu ei gilydd, ac sy’n eang hefyd o safbwynt demograffeg a daearyddiaeth.

Mae’n dda gen i gyhoeddi manylion y 19 sefydliad sy’n cael cyfanswm o £1.8 miliwn.

  • Cymdeithas Bel-droed Cymru – £500,000
  • S4C – £250,000
  • Cyngor Celfyddydau Cymru / Y Wal Goch – £100,000
  • Amgueddfa Cymru – £29,000
  • Urdd Gobaith Cymru – £77,783
  • Celfyddydau Rhyngwladol Cymru – £259,500
  • Cyngor Celfyddydau Cymru / Cymdeithas Bel-droed Cymru – £65,000
  • StreetGames Cymru – £165,100
  • Bengal Dragons – £12,175
  • Clybiau Bechgyn a Merched Cymru – £87,340
  • Barry Horns – £17,032
  • Cymru Fyd-eang / Prifysgolion Cymru – £30,000
  • Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth – £17,600
  • Wal Goch Expo / We Are Bak – £10,000
  • Mentrau Iaith - £22,000
  • Cyngor Llyfrau Cymru – £59,890
  • Mudiad Meithrin – £18,000
  • Cyngor Wrecsam / Amgueddfa Bel-droed Cymru – £75,000
  • Global Welsh – £20,000