Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn hysbysu aelodau’r Cynulliad fy mod yn neilltuo £1m i gefnogi datblygiad prosiectau i wella gwydnwch ac amrywiaeth ecosystemau. Mae ecosystemau yn darparu ystod eang o wasanaethau hanfodol gan gynnwys, bwyd, dŵr glân, coed, ac egni. Mae ecosystemau iach yn helpu rheoli hinsawdd, cyflenwad dŵr ac ansawdd aer. Bydd y cyllid ar gael ar gyfer gweithgareddau fydd yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli'r amgylchedd naturiol, fel a drafodwyd yn yr ymgynghoriad Rhwydwaith Amgylchedd Naturiol ‘Cymru Fyw’. Gall y gweithgareddau hyn gynnwys adfer cynefinoedd o flaenoriaeth fel coedwigoedd cynhenid, gwlypdir a glaswelltir, gwella cysylltedd rhwng ardaloedd gwarchodedig ar wahân, a rheoli effeithiau planhigion ac anifeiliaid o rywogaethau ymledol anfrodorol.

Mae’r gronfa hon yn adlewyrchu’r pwysigrwydd rwyf yn osod ar gyflawni ecosystemau gwydn ac amrywiol a all gael eu rheoli i ddarparu manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i Gymru.