Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Ym mis Chwefror, lansiais y Gronfa Gymorth i Bartneriaid Ewro 2025 sydd werth £1m er mwyn dathlu cyfranogiad hanesyddol tîm cenedlaethol menywod Cymru yn yr Ewros yn y Swistir yr haf hwn.
Pwrpas y Gronfa yw cefnogi nifer fach o brosiectau eithriadol a fydd yn hyrwyddo Cymru, yn cyflwyno ein gwerthoedd, yn enwedig o ran cydraddoldeb a chynhwysiant ac yn hybu chwaraeon menywod, gan annog mwy i gymryd rhan a chreu gwaddol gadarnhaol a pharhaol.
Denodd y Gronfa 53 o geisiadau a hoffwn ddiolch i'r sefydliadau hynny am eu diddordeb.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw y 16 o sefydliadau a fydd yn cael cynnig grant gan y Gronfa. Mae’r ymgeiswyr llwyddiannus a swm y grant a ddyfarnwyd iddynt wedi'u rhestru yn y tabl isod.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn sicrhau bod gan yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.