Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 25 Medi, ysgrifennais at yr Aelodau yn amlinellu’r elfennau allweddol o Gam Dau o’n rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth.

Roedd hyn yn cynnwys cadarnhau bod cynllun peilot o’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig wedi’i sefydlu i gefnogi ymgeiswyr anabl sy’n awyddus i gael eu hethol yn etholiadau llywodraeth leol 2022 ac etholiadau’r Senedd 2021.

Bryd hynny, rhoddais wybod fy mod wedi gofyn i Anabledd Cymru weithio gyda ni i ddatblygu manylion y trefniadau ac i symud y prosesau cymorth, asesu, a dyrannu yn eu blaen fel rhan o’r trefniadau peilot.

Heddiw, bydd ymgynghoriad yn dechrau, gan bara 10 wythnos, i geisio barn ar faterion penodol er mwyn cyfrannu at y trefniadau terfynol ac rwy’n disgwyl y bydd modd i ymgeiswyr ddechrau defnyddio’r broses ymgeisio yn gynnar ym mis Chwefror 2021. Mae’r materion hyn yn cynnwys:

  • y meini prawf a fydd yn cael eu defnyddio i gael cymorth y gronfa
  • a ddylid cyfyngu ar lefel y cyllid y caiff pob ymgeisydd ei gael o’r gronfa
  • a ddylai Anabledd Cymru ddarparu gwasanaeth cymorth ariannol i ymgeiswyr
  • a ddylid galw’r gronfa yn Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig neu a oes unrhyw awgrymiadau eraill.

Yn ogystal â’r ymgynghoriad ar-lein, mae Anabledd Cymru wedi cytuno i gynnal nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu yn ystod y cyfnod ymgynghori. Mae gan Anabledd Cymru eisoes rwydweithiau a pherthynas ag ystod o randdeiliaid a fydd yn ei alluogi i hwyluso gwaith ymgysylltu ystyrlon, wedi’i dargedu, ynglŷn â’r materion hyn. Bydd adborth o’r digwyddiadau hyn yn cael eu hystyried ochr yn ochr â chanlyniadau’r ymgynghoriad ar-lein.

Dylai unigolion sydd am gymryd rhan yn un o ddigwyddiadau Anabledd Cymru anfon e-bost i info@disabilitywales.org

Mae’r ymgynghoriad ar gael yma https://llyw.cymru/mynediad-gronfa-sefyll-mewn-etholiad

Byddwn i’n gofyn i’r Aelodau rannu’n ddolen hon yn eang ac annog pobl i ymateb i’r ymgynghoriad.

Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau eto ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben.