Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r datganiad hwn yn rhoi diweddariad ynghylch Cronfa Twf Economaidd Cymru 2012.

Er bod rhai hawliadau eto i’w gwneud, mae’r tablau canlynol yn rhoi manylion y gweithgarwch a gwir lefel y buddsoddiad yn ôl Awdurdod Unedol ac yn ôl sector.

Rwyf wedi cymeradwyo hawliadau ar gyfer 85 o fusnesau drwy’r cynllun, ac mae mwy na £18 miliwn wedi ei fuddsoddi. Mae’r prosiectau hyn wedi creu 874 o swyddi newydd ac wedi diogelu rhyw 1,028 o swyddi.

Mae ail rownd y Gronfa wrthi’n mynd yn ei blaen, â’r ceisiadau’n cael eu hasesu o dan y meini prawf Gwerth am Arian. Byddaf yn darparu datganiad ar y cam hwn o’r Gronfa ar ôl toriad yr haf.