Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 2 Gorffennaf 2012, cyhoeddais Bapur Gwyn a oedd yn ceisio sylwadau am gynigion ar gyfer Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru). Heddiw, 06 Mawrth 2013, rwy’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r Papur Gwyn hwnnw.  Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a ymatebodd. Rwyf wedi fy nghalonogi gan y gefnogaeth eang a ddangoswyd i’r cynigion.

Penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu colegau fel rhan o’r Llywodraeth Ganolog at ddibenion Cyfrifon Gwladol sy’n sail i’r cynigion ar gyfer addysg bellach. Drwy’r cynigion a nodir yn y Papur Gwyn hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r ddeddfwriaeth i wrthdroi’r penderfyniad hwnnw i ailddosbarthu.

O ran addysg uwch, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ddadansoddi a datblygu ymhellach y cynigion yn y Papur Gwyn. Byddaf yn cyflwyno’r darpariaethau mewn perthynas â diwygio addysg uwch drwy ddeddfwriaeth yn hwyrach yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Bydd y Bil hefyd yn cynnwys darpariaeth i ganiatáu i ddata gael ei rannu at ddibenion darparu gwybodaeth gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (gwiriadau incwm aelwydydd) i’w defnyddio i weithredu rheoliadau grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr. Mae hyn yn rhan o’r prosiect i foderneiddio gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru trwy greu gwasanaeth cynhwysfawr a ddarperir gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.  

Byddwn yn bwrw ymlaen â’r darpariaethau mewn perthynas ag Addysg Bellach a Rhannu Data Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi fel deddfwriaeth i’w chyflwyno yng ngwanwyn 2013.