Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 10 Hydref 2011 cyhoeddais Bapur Gwyn i gael barn pobl ynghylch cynigion am Fil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru). Cyhoeddaf heddiw [26 Mawrth 2012] grynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’r Papur Gwyn.  
Bydd y Bil Drafft yn cynnwys darpariaethau ar gyfer y meysydd canlynol:
  • Ymyrryd mewn ysgolion sy’n peri pryder;
  • Canllawiau ar Wella Ysgolion;
  • Trefniadaeth Ysgolion;
  • Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg;
  • Cyfarfodydd Rhieni Blynyddol;
  • Brecwast am ddim mewn ysgolion;
  • Cwnsela mewn ysgolion;
  • Codi taliadau hyblyg am brydau ysgol;
Mae’r newidiadau uchod yn rhai pwysig ac yn rhan o’r pecyn o ddiwygiadau y bwriadaf eu cyflwyno ar gyfer addysg yn ystod tymor presennol Llywodraeth Cymru.Fy mwriad yw cyflwyno’r Bil Drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl toriad y Pasg.