Llyr Gruffydd AS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Hoffwn roi crynodeb i Aelodau'r Senedd o'r cyhoeddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ystod Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Cyhoeddais ymrwymiad o fwy nag £1 biliwn dros dair blynedd i gadarnhau cylch cyllido aml-flwyddyn ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS). Fel rhan o hyn, cadarnheais £238 miliwn y flwyddyn ar gyfer haen Gyffredinol y Cynllun, sy'n golygu y bydd £102 miliwn ar gael ar gyfer darparu'r haenau Opsiynol a Chydweithredol.
Ar 21 Gorffennaf, cyhoeddais y bydd Simon Wright, sy'n hyrwyddwr profiadol o ddiwydiant bwyd a diod Cymru, yn arwain grŵp arbenigol a fydd yn datblygu Strategaeth Fwyd Genedlaethol newydd i Gymru.
Ar 22 Gorffennaf, cyhoeddais ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Prawfesur Gwledig a Chynaliadwyedd Amgylcheddol, a oedd yn cynnwys cynigion ar gyfer dyletswydd statudol newydd i ddiogelu cymunedau gwledig at y dyfodol.
Yn ystod y Sioe, cyhoeddais hefyd sut y mae'r adolygiad o'r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol, dan arweiniad John Davies, yn dod yn ei flaen. Rwy'n ddiolchgar am ei syniadau cychwynnol ac, yn eu sgil, byddwn yn symleiddio'r ffordd o ymdrin â'r Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid yn Haen Gyffredinol yr SFS.
Mae hyn yn golygu bod pob un o bedwar ymrwymiad y 100 diwrnod cyntaf ar fwyd, ffermio a chymunedau gwledig wedi eu bodloni.
Yn ogystal, cyhoeddais fod ffenestr ymgeisio ar gyfer Grant Creu Coetir Bach wedi agor ar 20 Gorffennaf. Bydd ffenestri ymgeisio'n agor yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 27 Gorffennaf hefyd ar gyfer cymorth i Droi'n Organig, a ffenestr 'Cyfalaf: cynhyrchu ac effeithlonrwydd' i ddarparu cymorth tuag at gostau offer ar gyfer lleihau gwastraff a gwella effeithlonrwydd ar y fferm.
Roedd Sioe eleni unwaith eto yn arddangos y gorau o gefn gwlad Cymru. Hoffwn longyfarch trefnwyr y sioe, yr arddangoswyr a phawb arall a fu'n rhan o lwyddiant y Sioe.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
