Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn gynharach eleni, cyhoeddais ddogfen ymgynghori dechnegol, sef “Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus – y camau nesaf”. Heddiw, rwy’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw.

https://beta.llyw.cymru/comisiwn-addysg-drydyddol-ac-ymchwil-i-gymru  

Roedd yr ymgynghoriad technegol yn rhoi ystyriaeth i’r adborth a gafwyd ar y Papur Gwyn cynharach a gyhoeddwyd yn 2017 ac roedd yn esbonio’n fanylach sut yr oeddem yn rhagweld y byddai’r Comisiwn newydd yn gweithredu. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 17 Gorffennaf; daeth 422 o ymatebion ysgrifenedig i law.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, cynhaliwyd nifer o grwpiau ffocws thematig gyda rhanddeiliaid dethol. Roeddent oll yn ymdrin ag adran benodol o’r ymgynghoriad technegol a rhoddwyd gwahoddiad i randdeiliaid â diddordeb penodol yn y meysydd hyn i fod yn bresennol.

Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad am eu sylwadau a’u help i llywio cam nesaf ein cynigion. Roeddwn yn falch o weld bod yr ymatebion yn parhau i fod yn gefnogol i’r egwyddorion ar y cyfan, ac roedd rhai’n awgrymu hefyd bod angen mireinio ychydig ar y syniadau. Mae’r syniadau hynny yn cael eu ystyried yn llawn wrth ddatblygu’r polisi ymhellach yn ystod y broses ddeddfwriaethol.

Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i Miller Research Ltd, a hwylusodd y grwpiau ffocws gyda’r rhanddeiliaid a darparu dadansoddiad manwl o’r ymatebion ysgrifenedig.

Mae fy ymrwymiad i gyflwyno deddfwriaeth gerbron y Cynulliad hwn yn parhau’n gadarn. Byddwn yn parhau i drafod â rhanddeiliaid wrth fwrw ymlaen er mwyn sicrhau bod y Comisiwn newydd yn gallu gweithio’n effeithiol er budd y genedl a holl ddysgwyr Cymru.