Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae’n bleser gennyf gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a lansiwyd gennyf y llynedd ynghylch y newidiadau arfaethedig i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed. 

Prif nod yr ymgynghoriad oedd ymateb i argymhellion a wnaed yn sgil adolygiad o’r safonau gofynnol cenedlaethol yn 2019. Roedd angen eglurhad a chyfarwyddyd pellach mewn nifer o feysydd, er enghraifft, mewn meysydd fel cymorth cyntaf a hyfforddiant diogelu.

Mae’r safonau gofynnol cenedlaethol yn helpu i sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael mynediad at brofiadau gofal plant a chwarae, sydd o ansawdd uchel ac yn rhoi cyfleoedd i blant chwarae, dysgu, cymdeithasu, a thyfu fel unigolion. 

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ystyried y safonau hyn wrth arolygu darparwyr gofal plant a gwaith chwarae cofrestredig. 

Mae’r crynodeb o’r ymatebion yn dangos y cafwyd cefnogaeth gyffredinol i’r cynigon gan yr ymatebwyr.

Fodd bynnag, yn sgil yr heriau costau byw presennol a’r effaith y gallai’r newidiadau hyn ei chael ar y sector gofal plant a chwarae, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion drafod y sefyllfa gyda’n partneriaid - mae’r rhain yn cynnwys awdurdodau lleol a sefydliadau gofal plant a chwarae ymbarél yng Nghymru - a hynny i ystyried sut i fynd ati i weithredu. 

Rwy’n bwriadu cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o’r safonau gofynnol cenedlaethol yn ddiweddarach yn 2023. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu’n gyson. 

Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad hwn, mae eu barn yn chwarae rhan allweddol wrth lunio’r safonau fel eu bod yn parhau’n berthnasol ac yn addas i’w diben.