Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Y llynedd, aeth Llywodraeth Cymru ati i ymgynghori ar y cynigion i ddiwygio’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer darparu ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig. Roedd y ddogfen yn cynnwys amrywiaeth eang o newidiadau arfaethedig i’r ffordd y caiff plant eu hasesu a’u hanghenion eu diwallu. Roedd y cynigion yn cynnig gweledigaeth yn seiliedig ar anghenion gyda’r bwriad o integreiddio’r gwaith o gynllunio darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion plant ar draws yr amryw asiantaethau sy’n gysylltiedig â’u teulu.

Cafwyd dros 200 o ymatebion gan amrywiaeth eang o randdeiliaid gan gynnwys rhieni, plant, ysgolion, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, undebau athrawon, cyrff proffesiynol, Comisiynydd Plant Cymru a llawer mwy. Roedd y rhan fwyaf o’r rhai wnaeth ymateb yn cytuno ag egwyddorion y cynigion. Ceir manylion llawn yr ymatebion isod:

Fe wnaeth llawer o’r rhai wnaeth ymateb ofyn am ragor o fanylion am y cynigion. Bydd fy swyddogion yn holi am farn rhanddeiliaid yn yr hydref a bydd dogfen ymgynghori ddiwygiedig yn cael ei chyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn.