Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 29 Tachwedd 2012, am gyfnod ymgynghori o ddeuddeg wythnos, cyhoeddwyd Papur Gwyrdd i gasglu barn pobl ynghylch a oes angen Bil Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 20 Chwefror 2013. Heddiw, rwy’n cyhoeddi adroddiad cryno o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.  

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a anfonodd eu hymatebion i’r Papur Gwyrdd. Rwyf wedi cael fy nghalonogi gan nifer yr ymatebion a ddaeth i law o’r gwahanol sectorau ac oddi wrth aelodau’r cyhoedd. Yn fy marn i mae hyn yn dangos awydd cryf i ystyried yr holl adnoddau sydd ar gael i ni barhau i wella iechyd a lles pobl Cymru.

Aeth yr ymgynghoriad ati i gasglu safbwyntiau gan ystod eang o randdeiliaid ac aelodau’r cyhoedd ynghylch a fyddai cyflwyno deddfwriaeth newydd yn ffordd effeithiol o roi sylw i rai o’r prif heriau iechyd sy’n wynebu Cymru. Felly, y diben oedd casglu safbwyntiau cyffredinol yn hytrach nag ymgynghori ar gynigion deddfwriaethol manwl. Cafodd yr ymgynghoriad ei hwyluso gan y Drafodaeth Fawr ar Iechyd i ystyried rôl deddfwriaeth yn ogystal â dulliau amgen o wella iechyd y cyhoedd.

Er mwyn llywio’r drafodaeth, cafodd y Papur Gwyrdd ei seilio ar bedwar syniad cynnar ar gyfer meysydd y gellid o bosib eu harchwilio ymhellach. Y meysydd oedd:

  • Y ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i ystyried materion iechyd wrth lunio polisi;
  • Y ddyletswydd ar ystod o gyrff i leihau anghydraddoldebau iechyd;
  • Ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gryfhau’r pwyslais a roddir ar atal iechyd gwael; 
  • Cryfhau gweithredu cymunedol o ran diogelu a gwella iechyd .
Fodd bynnag, pwysleisiwyd hefyd mai bwriad y syniadau hyn oedd cychwyn trafodaeth, ac roedd croeso i syniadau eraill hefyd.

Cafwyd ymateb calonogol iawn i’r ymgynghoriad, gyda 371 o ymatebion yn dod i law gan nifer o sectorau gwahanol. Roedd mwyafrif clir o’r ymatebwyr yn gefnogol i’r cyfeiriad polisi cyffredinol a’r testunau a archwiliwyd gan y Papur Gwyrdd. Roedd cefnogaeth yn arbennig i gyflawni dull o weithredu ‘Iechyd ymhob Polisi’ yng Nghymru, er mwyn rhoi sylw i’r amrywiol ffactorau ar draws meysydd polisi a all effeithio ar iechyd a lles yn gyffredinol. Roedd nifer o ymatebion hefyd yn cynnig safbwyntiau mwy cyffredinol neu’n canolbwyntio ar feysydd penodol o iechyd cyhoeddus, fel mynd i’r afael â’r defnydd o dybaco neu ymdrin â gordewdra. Ar y cyfan, roedd yr ymatebion yn cynnig cyfoeth o sylwadau, syniadau ac awgrymiadau am y rôl y gallai deddfwriaeth ei chwarae o ran gwella a diogelu iechyd yng Nghymru.

Mae adroddiad cryno o’r ymgynghoriad Papur Gwyrdd ar gael ar-lein.

Byddaf yn parhau i ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad wrth feddwl am y camau nesaf yn y gwaith pwysig hwn. Byddaf yn gwneud yn siŵr fod Aelodau’n cael gwybod am unrhyw gynnydd.